ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
Bio-parthau Vaughan / Vaughan’s biozones
Yn 1905 rhannodd y daearegwr Arthur Vaughan y Galchfaen Carbonifferaidd i barthau yn seiliedig ar bresenoldeb rhai ‘ffosilau mynegai’ a oedd yn gysylltiedig â gwelyau penodol o galchfaen. Nodweddir y bio-parthau C1, C2, D1, D2, K, S1, S2 a Z gan y coralau ffosil Caninia (C), Dibunophyllum (D), Cleistopora (K) a Zaphrentis (Z) yn y drefn honno, ynghyd a brachiopod ffosil Seminula (S). Roedd y parthau hyn yn cyfateb i wahanol oedrannau’r olyniaeth calchfaen – byddai sôn am gyhoeddiadau hyn o’r galchfaen yn cyfeirio at (er enghraifft) y Galchfaen Dowlais.
braciopod / brachiopod
Grŵp o gregyn deuglawr a oedd yn ffynnu ym moroedd y Cyfnod Carbonifferaidd. Mae gweddillion ffosiledig gwahanol rywogaethau o Anthracoceratites, Gastrioceras a Reticuloceras yn ddefnyddiol fel haenlinau gwahaniaethol yng nghreigiau Namuraidd y Cyfnod Carbonifferaidd.
Brycheiniogaidd / Breconian
Enw uned stratigraffig leol y Cyfnod Defonaidd Isaf pan gafodd Ffurfiannau Senni a’r Cerrig Cochion eu dyddodi. Gweler siart amser Defonaidd.