Canllaw byr i’r ffordd y mae daearegwyr yn rhannu amser daearegol gan gyfeirio’n arbenng at Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr
Credir bod y Ddaear yn dyddio yn ôl dros 4540 miliwn o flynyddoedd. Mae daearegwyr wedi rhannu’r amser hwnnw mewn llawer o ffyrdd gwahanol dros y blynyddoedd, ond fwyfwy, mae ffordd ryngwladol gytûn o wneud hyn.
Ewch i dudalennau’r llinell amser ddaearegol yn Arolwg Daearegol Prydain.
Rydych yn debygol o ganfod dyddiadau gwahanol eraill ar gyfer dechrau a gorffen nifer o gyfnodau daearegol mewn llyfrau a gwefannau. Yr amseroedd a roddir isod yw’r rhai a argymhellir gan Arolwg Daearegol Prydain a’r Comisiwn Rhyngwladol ar Stratigraffeg sydd wedi dilysu adroddiad ar y pwnc a gyhoeddwyd yn 2012 gan dri arbenigwr – Gradstein, Ogg a Smith – a’i ddiweddaru yn 2022. Wrth i wybodaeth wella mae’r dyddiadau hyn hefyd yn debygol o newid – dylid ymdrin â nhw’n ofalus.
Mae’r isadrannau wedi’u hamlinellu isod. Mae nifer o oesoedd yn gwneud epoc, ac mae nifer o’r rhain yn gwneud cyfnod. Mae nifer o gyfnodau yn gwneud gorgyfnod ac mae nifer o’r rhain yn gwneud aeon. Mae’r creigiau a ffurfiwyd yn ystod cyfnod yn hysbys fel system. Yn yr un modd, mae’r rhai a ffurfiwyd yn ystod epoc yn gwneud cyfres ac ati.
- Aeon
- Gorgyfnod
- Cyfnod/system
- Epoc/cyfres
- Oes/cyfnod
- Epoc/cyfres
- Cyfnod/system
- Gorgyfnod
Y gorgyfnod presennol
Mae’r 512 miliwn o flynyddoedd diwethaf yn hysbys fel yr Aeon Phanerosoig. Mae daearegwyr yn ei rannu yn dri ‘gorgyfnod’ a deuddeg ‘cyfnod’. Cynrychiolir y cyfnodau hynny sydd wedi’u marcio â * yng nghreigiau Geoparc y Fforest Fawr. Ar hyn o bryd, rydym yn byw yn y Cyfnod Cwaternaidd yn y Gorgyfnod Cenosoig o fewn yr Aeon Phanerosoig.
Llinell amser ddaearegol
-
Gorgyfnod Cenosoig/Cainosoig
- Cyfnod Cwaternaidd* 2.6 – 0 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ewch i’r Llinell amser Cwaternaidd
- Cyfnod Neogenaidd 23 – 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Cyfnod Palaeogenaidd 66 – 23 miliwn o flynyddoedd yn ôl
-
Gorgyfnod Mesosoig
- Cyfnod Cretasaidd 145 – 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Cyfnod Jurasig 201 – 145 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Cyfnod Triasig 252 – 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl
-
Gorgyfnod Palaeosoig
- Cyfnod Permaidd 299 – 252 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Cyfnod Carbonifferaidd* 359 – 299 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ewch i’r Llinell amser Carbonifferaidd
- Cyfnod Defonaidd* 419 – 359 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ewch i’r Llinell amser Defonaidd
- Cyfnod Silwraidd* 444 – 419 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ewch i’r Llinell amser Silwraidd
- Cyfnod Ordofigaidd* 485 – 444 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ewch i’r Llinell amser Ordofigaidd
- Cyfnod Cambriaidd 539 – 485 miliwn o flynyddoedd yn ôl
-
‘Gorgyfnod’ cyn-Gambraidd
- 4540 – 539 miliwn o flynyddoedd yn ôl