Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr: gweledigaeth, amcanion a chanlyniadau dymunol newydd
Gweledigaeth
- Erbyn 2020, cydnabyddir Geoparc y Fforest Fawr fel Geoparc o’r radd flaenaf sy’n defnyddio ei ddynodiad i esgor ar fuddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Gan gydweithio â’i gymunedau lleol ac er eu lles, bydd yn cyflawni hyn trwy ganolbwyntio ar y dreftadaeth ddaearegol, ddiwylliannol a biolegol a thrwy gynnwys amrywiaeth eang o asiantaethau, busnesau ac ymwelwyr.
Amcanion
Drwy weithio mewn partneriaeth effeithlon ac effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol a rhanbarthol a thrwy ymgysylltu’n llwyr â’r Rhwydweithiau Geoparciau Ewropeaidd a Byd-eang, bydd Geoparc y Fforest Fawr yn:
- Ysgogi cadwraeth geoamrywiaeth, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol ar raddfa dirweddol.
- Ennyn brwdfrydedd ymhlith cymunedau lleol a’u busnesau i gydweithio’n gynaliadwy ac ymfalchïo yn y Geoparc.
- Hybu datblygu economaidd cynaliadwy, yn enwedig twristiaeth gynaliadwy.
- Datblygu gwybodaeth a dehongli uchel eu safon sy’n ategu profiad pleserus i ymwelwyr ac sy’n cysylltu pobl â’r Geoparc.
- Gweithredu fel canolbwynt i ymchwil gwyddorau daear/amgylcheddol.
- Darparu addysg amgylcheddol uchel ei safon i bob oedran.
- Ceisio cynnwys pob sector o’r gymdeithas wrth ddatblygu ei waith.
- Defnyddio ei dreftadaeth i annog ymwelwyr, busnesau a chymunedau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
- Monitro effeithiau’r Geoparc er mwyn dylanwadu ar gamau gweithredu yn y dyfodol.
Canlyniadau
- Mae geoamrywiaeth, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y Fforest Fawr yn cael eu cadw a’u helaethu i’r oesoedd a ddêl.
- Mae busnesau a chymunedau lleol yn gwerthfawrogi ac yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn y Geoparc.
- Mae cymunedau a busnesau lleol yn ffynnu ac yn llewyrchus yn yr hirdymor.
- Mae ymwelwyr yn cael profiadau cofiadwy rhagorol ac yn teimlo’n gysylltiedig â’r Geoparc.
- Cydnabyddir y Fforest Fawr am ei gyfraniad i’n gwybodaeth am yr amgylchedd/ y gwyddorau daear ac am newid yn yr hinsawdd.
- Mae geoamrywiaeth, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y Fforest Fawr yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi gan bob sector o’r gymdeithas.
- Mae’r Geoparc yn ennyn brwdfrydedd ymwelwyr, busnesau a chymunedau i fynd i’r afael â materion newid yn yr hinsawdd.