Taith gyflym o amgylch rhai o stwythurau daearegol pwysicaf Fforest Fawr.
Mae modd didoli ffawtiau yn y Geoparc yn fras i ddwy set – y rhai sy’n ffurfio rhan o gasgliad o ffawtiau sy’n gogwyddo o’r gogledd–ogledd-orllewin i’r de-dde-ddwyrain (wedi’u labelu *G/D) a’r rhai sydd wedi’u halinio â’r ‘cylchfaoedd’ mawr sy’n gogwyddo o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin (wedi’u labelu *D/G) .
Mae’r ffawtiau gogledd-ogledd-orllewin i dde-dde-ddwyrain bron i gyd yn ffawtiau ‘normal’ sy’n taflu creigiau i’r gorllewin (neu i’r gorllewin-ogledd-orllewin yn unig) – mae hynny’n golygu bod y symud ar hyd y ffawt o’r natur fel bod y creigiau ar eu hymylon gorllewinol wedi symud i lawr yn berthynol i’r rhai ar y dwyrain. Mae graddfeydd y symud yn amrywio o ffawt i ffawt ac, yn wir, ar hyd ffawtiau unigol.
Mae’r ffawtiau sydd wedi’u halinio o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin yn gysylltiedig â’r Orogeni Caledonaidd ac felly cyfeirir atynt fel strwythurau ‘Caledonaidd’. Yn ddi-os, daeth rhai ohonynt i fodolaeth cyn y cyfnod creu mynyddoedd a bydd llawer ohonynt wedi bod yn weithgar ers y cyfnod hwnnw. Mae gan dri o’r ffawtiau mwy o faint gysylltiad agos â phlygiadau megis yr un a ddatgelwyd yn ysblennydd yng Nghribarth yng Nghwm Tawe Uchaf. Mae’r strwythurau cyfansawdd hyn yn hysbys fel ‘cylchfaoedd ffawtio plygu’ yn ne Cymru. Mae’r ymdeimlad o symud ar y ffawtiau hyn wedi amrywio dros amser.
Nid yw’r rhan fwyaf o ffawtiau lleiaf erioed wedi cael enw – mae’r ffawtiau hynny sydd wedi cael enw wedi’u rhestru isod:
Cylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen (*D/G)
Ardal o ffawtiau a phlygiadau sy’n ymestyn dros ddwsinau o gilometrau ar draws cefn gwlad. Daw ei henw o’r fan lle mae’n effeithio ar y dirwedd yn fwyaf trawiadol – mae Castell Carreg Cennen yn sefyll ar ben clwstwr o Galchfaen Carbonifferaidd rhwng dau ffawt sy’n ffurfio rhan o’r gylchfa ffawtio. Mae’r gylchfa ffawtio hon yn ffurfio rhan o Gylchfa Ffawtiau’r Gororau sy’n strwythur ‘Caledonaidd’.
Ffawt Clun-gwyn(*GO/DD)
Sgwd Clun-gwyn a Sgwd yr Eira
Ffawt Coed Hir (*D/G)
Yn rhedeg am 3km ochr yn ochr â Chylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd ychydig i’r gogledd o Benderyn, gan daflu creigiau Grutfaen Melinfaen i’r de.
Cylchfa Ffawtio Cribarth (*D/G)
Ardal o ffawtiau a phlygiadau yn ymestyn dros ddwsinau o gilometrau ar draws cefn gwlad ac yn ffurfio Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe i’r de-orllewin o’r mynydd bach y daw ei henw ohono. Mae’n ffurfio cainc o System Ffawtiau’r Gororau ac fe’i hystyrir yn strwythur ‘Caledonaidd’.
Ffawt Cwm Llwyd (*G/D)
Yn rhedeg o’r gogledd i’r de am fwy na 4km yn ymyl Brest Cwm Llwyd i’r gorllewin o Frynaman yn taflu Haenau Glo, Grutfaen Melinfaen a Chalchfaen Carbonifferaidd i’r gorllewin.
Ffawt Cwmllynfell (*G/D)
Yn rhedeg o’r gogledd i’r de o Frest Rhiw ar ochr ogleddol y Mynydd Du, gan fynd heibio i’r gorllewin o Gwmllynfell, yn parhau am gyfanswm o 13k i Gilmaen yng Nghwm Tawe lle mae’n cysylltu â Chylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe. Mae’n taflu creigiau Haenau Glo i’r gorllewin er ei fod hefyd yn effeithio ar greigiau, gan gynnwys Ffurfiant Cerrig Cochion yr Hen Dywodfaen Coch.
Ffawt Dinas (*D/G)
Yn ffurfio rhan o Gylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd yng nghyffiniau Craig y Ddinas a Bwa Maen ym Mhontneddfechan.
Ffawt Gardeners (*G/D)
Ffawt mawr ym maes glo’r gorllewin sy’n ymestyn i’r Geoparc ar ei ben gogleddol yn Llandyfan. Mae’n dod i ben yn erbyn Cylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen. Yn yr un modd â ffawtiau sydd wedi’u halinio mewn ffordd debyg yn yr ardal, mae’n taflu creigiau i’r gorllewin ar ei hyd 17km. Mae ei ben deheuol wrth Gylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe.
Ffawt Henrhyd (*G/D)
Mae’r ffawt hwn sy’n ymestyn o’r de-dde-orllewin o Gylchfa Ffawtio-plygu Cribarth i’r gogledd o Graig-y-nos i’r maes glo ym Manwen ychydig i’r de o’r Geoparc, yn bwysig gan ei fod yn arwain at Sgwd Henrhyd ysblennydd ger Coelbren. Mae’n cwympo i’r gorllewin.
Ffawt Llwyncelyn (*G/D)
Yn rhedeg o’r gogledd i’r de am 6km drwy Frynaman yn cwmpo creigiau Haenau Glo i’r gorllewin.
Ffawt Eglwys Merthyr (*G/D)
Yn ymestyn o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain drwy ardal Merthyr Tudful ac yn mynd i mewn i’r Geoparc yng Nghefn Coed-y-cymer. Mae’r ffawt hwn a ffawtiau cysylltiedig eraill yn helpu i ddiffinio aliniad Cwm Taf Uchaf rhwng Merthyr Tudful a Storey Arms. Yn cwmpo i’r gorllewin.
Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd (*D/G)
Ardal o ffawtiau a phlygiadau sy’n ymestyn dros ddwsinau o gilometrau ar draws cefn gwlad o’r gogledd-ddwyrain o Fae Abertawe at Gwm Nedd. Cyfeirir ati weithiau fel Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd. Mae’n parhau heibio i Graig y Ddinas a Bwa Maen, drwy Foel Penderyn, o dan Gronfa Ddŵr Pontsticill ac ymlaen drwy Flaen Onnau a’r cwm i’r gogledd o Fynydd Pen-y-Fal tuag at Henffordd. Mae iddi stwythur ‘Caledonaidd’.
Ffawt Palleg (*Gogledd/De)
Yn rhedeg o’r gogledd i’r de o’r de-ddwyrain i Foel Frith am 8km at Gwm Twrch Isaf ac yn parhau fel Ffawt Allt y Grug at Ystalyfera. Mae’n cwympo creigiau’r Haenau Glo i’r gorllewin ond yn ymestyn i’r Grutfaen Melinfaen a’r Calchfaen Carbonifferaidd hefyd.
Ffawt Pwllau Bach (*Gogledd/De)
Yn rhedeg o’r de-dde-ddwyain o Gylchfa Ffawtio-plygu Cribarth drwy Abercraf ac allan o’r Geoparc drwy’r Haenau Glo heibio i Flaendulais. Mae’n cwmpo i’r gorllewin.
Ffawt Sawdde (*Dwyrain/Gorllewin)
Strwythur ‘Caledonaidd’ sy’n rhedeg o’r gogledd-ddwyain i’r de-orllewin rhwng Llangadog a Cheunant Sawdde ac yn cysylltu â ffawtiau eraill sydd wedi’u halinio mewn ffordd debyg ac sy’n ffurfio rhan o Ardal Ffawtiau’r Gororau.
Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe (*Dwyrain/Gorllewin)
– gweler Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe
Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe (*Dwyrain/Gorllewin)
Ardal o ffawtiau a phlygiadau’n ymestyn dros ddwsinau o gilometrau ar draws cefn gwlad i’r gogledd-ddwyrain o Fae Abertawe i fyny Cwm Tawe. Cyfeirir ati weithiau fel Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe. Mae’n parhau y tu hwnt i Gribarth fel Cylchfa Ffawtio-plygu Cribarth mor bell ag Aberhonddu a’r tu hwnt. Strwythur ‘Caledonaidd’ ydyw.
Ffawt Tŷ Llwyd (*Gogledd/De)
Yn rhedeg o’r de-dde-ddwyrain o Gylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen yng Ngharreg Cennen, yn rhannu o amgylch Cwmberach ac yn parhau at Fanc Cwmhelen, i’r de o Garnant. Mae’n cwympo creigiau o’r oes Ddefonaidd Isaf i’r oes Garbonifferaidd uchaf i’r gorllewin.
Systemau Ffawtiau’r Gororau (*Dwyrain/Gorllewin)
Ardal yn ymestyn o Sir Benfro i ymyl orllewinol Ardal y Copaon lle mae cyfres o ffawtiau mawr. Mae hefyd yn diffinio ymyl dde-ddwyreiniol cyn Fasn Cymru. Mae’n cynnwys Cylchfa Ffawtio-plygu Carreg Cennen, Ffawt Sawdde ac Ardal Serth Myddfai. Mae Cylchfa Ffawtio Plygu Cribarth yn gangen i System Ffawtiau’r Gororau. Mae pob un ohonynt yn stwythurau ‘Caledonaidd’.