Camlas hanesyddol rhwng Aberhonddu a Chasnewydd sydd â therfynfa orllewinol yn Watton yn Aberhonddu
Cyfeirnod AO SO 056283 (basn camlas Aberhonddu)
Mae’r 3km mwyaf gorllewinol o’r gamlas yn rhedeg y tu fewn i’r Geoparc. Mae’r hen odynnau calch yn Watton. Mae Geolwybr yn archwilio gorlifdir Afon Wysg ac yn cynnwys adran o’r gamlas.
Daeareg
- Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Llanfocha
- Cwaternaidd; ceunant afon, gorlifdir, cerlannau afon a llifwaddod
Mapiau
- OS Landranger 160, Explorer OL12
- Daearegol — BGS 1:50,000 ‘Brecon’
Canllawiau
- Geo-lwybr ‘Aberhonddu (Afon Wysg) — mae’n cynnwys rhan o’r gamlas
Cyfleusterau
- Siopau, tafarndai, tai bwyta, Amgueddfa Brycheiniog, Theatr Brycheiniog ac ati yn Aberhonddu
- Meysydd parcio niferus – talu ac arddangos yn bennaf.
Hygyrchedd
- Gwastad a heb rwystrau
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — mynediad da o’r A470 a’r A40
- Ar y trên — gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaethau X43, 63, 714 yn rhedeg i/o Aberhonddu
- Ar feic — mae NCN 8 yn rhedeg ochr yn ochr â’r gamlas