Gwarchodfa natur genedlaethol sy’n cael ei rheoli gan Gyforth Naturiol Cymru (CNC) am ei thirffurfiau rhewlifol – creigiau, marianau a chwympiadau tir – a’u fflora a ffawna mynyddig.
Cyfeirnod AO SN 965221 (Canolfan y safle)
Mae llethr y mynydd hwn yn amlwg mewn golygfeydd i fyny Glyn Tarell. Mae’n gymharol hawdd i’w gerdded ar y ffordd i’r dyffryn o dan y prif glogwyni lle gellir sawru awyrgylch y lle. Mae creigiau Ffurfiant Senni yr Hen Dywodfaen Coch yn ffurfio creigiau trawiadol â llystyfiant drostynt ac islaw’r rhain y mae’r marianau a dyddodion cwympiadau tir, sydd yr un mor drawiadol, a etifeddwyd o’r Oes Iâ ddiwethaf. Mae rhwydwaith o lwybrau yma ac i fyny at Fan Frynych gerllaw yn cynnig nifer o ddewisiadau i’w cerdded.
Daeareg
- Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Senni
- Cwaternaidd; cwm rhewlifol a marianau, cwympiadau tir
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 213 ‘Brecon’
Canllaw
- Taflen CNC am ddim i’w chael ar y safle
Cyfleusterau
- Man picnic, arddangosfa ddeongliadol ar y cychwyn
- Parcio am ddim mewn encilfa yn SN 972223
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Gwlad agored, llwybrau cymharol serth dros dir anghyson; llethr 75m / 250’ i’r cwm; amgylchedd mynyddig – cymerwch ofal!
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — ger yr A470
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni – ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; gwasanaeth T4 rhwng Caerdydd ac Aberhonddu