Dringo


Felly, rydych chi am roi cynnig ar ddringo rhai o greigiau’r Geoparc?

Wel – mae creigiau’r Hen Dywodfaen Coch yn cynnig golygfeydd mynyddig rhyfeddol ond nid ydynt yn addas i’w dringo. Ar y llaw arall, mae Calchfaen Carbonifferaidd i’w gweld fel cyfres o greigiau ar ochr ddeheuol y Geoparc. Mae nifer o greigiau dringo adnabyddus i’w cael mewn lleoedd fel Craig y Ddinas ym Mhontneddfechan.

Y ffordd orau i fynd i’r afael â’r creigiau hyn yw cysylltu â’r bobl hynny sydd eisoes yn eu mwynhau mewn modd cyfrifol. Gallech ystyried ymuno ag un o’r clybiau dringo lleol neu gadw lle ar gwrs dringo gyda darparwr chwaraeon antur lleol.

Ewch i tudalennau dringo Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a beth bynnag a wnewch cymerwch ofal!