Dŵr a Choedwigoedd, Llwybrau a Threnau

Coedwig Garwnant a Chanolfan Ymwelwyr, Coedwig Taf Fechan


Dafliad carreg o’r A470, mae gan Ganolfan Ymwelwyr Garwnant Wybodaeth, parc chwarae i’r plant, a bwyty. Cerddwch un o lwybrau’r goedwig – ame gan rai ohonynt thema ddaearegol. I gerddwr o ddifrif, mae Taith Taf yn mynd heibio’r ganolfan i Gwm Taf, ac mae llwybr penodol i feicwyr yn dilyn yr hen reilffordd o Gefncoedycymer i fyny’r cwm a thrwy’r goedwig.

Mae pen Cwm Taf Fechan yn lle delfrydol ar gyfer cychwyn am dro hirach ar y Bannau. Gall y rhai sydd heb gymaint o egni fwynhau trip ar Rheilfordd Mynydd Brycheiniog ger Pontsticill. Mae’r Rheilffordd a Pharc Cyfarthfa gerllaw, y Castell, yr Amgueddfa a’r Oriel in gyd yn llefydd sy’n estyn croeso i deuluoedd, ac yn ddengar os yw’r tywydd yn dechrau troi!

Cwm Taf o Gefn Cil-sanws

Cwm Taf o Gefn Cil-sanws

Os oes gennych awr neu lai:

Os oes gennych hanner diwrnod (2-4 awr):

Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8 awr):

Oeddech chi’n gwybod . . ?

. . . . mae Taith Taf yn ymestyn yr holl ffordd o Aberhonddu i Gaerdydd ac mae yn 55 milltir / 88km o hyd.