Beicio


Mae digon o gyfleoedd i feicio yn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr, ar darmac yn ogystal ag ar lwybrau traws gwlad a lonydd gwyrdd.

Gallwch fynd â’ch beic i leoedd nad ydych yn gallu eu cyrraedd yn y car. Mae mapiau’r Arolwg Ordnans yn dangos yr holl lwybrau ceffylau, cilffyrdd a lonydd gwyrdd* sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cerddwyr, marchogwyr a beicwyr!

Fel rheol, mae lonydd gwyrdd wedi eu nodi fel ‘llwybrau eraill â mynediad i’r cyhoedd’ ar fapiau cyfoes yr Arolwg Ordnans, mae rhai ohonynt ar gael yn gyfreithlon i fodurwyr, ac mae eraill wedi eu gwrthod. 

Mae’n werth cynllunio eich taith o flaen llaw. Gwiriwch y llwybrau hyn yn benodol:

  • Taith Taf (dolen ddwyreiniol o Ferthyr Tudful i Aberhonddu drwy Goedwig Taf Fechan, Torpantau a Thalybont)
  • Llinell Chwarel Penderyn (y ‘Fynedfa Fwaog’ lawr i Hirwaun)

Ewch i tudalennau beicio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.