Nodweddion ardaloedd wedi’u draenio’n dda o’r Mesurau Glo a’r Grŵp Marros yw pridd gwael sy’n cynnal rhostir grug..
Grŵp Marros yw’r enw newydd mae daearegwyr yn ei roi i’r hen gyfres Grutfaen Melinfaen – cyfres o dywodfeini a cherrig llaid sydd wedi’u lleoli rhwng y Mesurau Glo a’r Calchfaen Carbonifferaidd.
Mae’r rhostir grug yn dirywio o ganlyniad i orbori a llosgi ac weithiau caiff ei gyfnewid am ardaloedd o rostir glaswellt sy’n brin o ran rhywogaethau wedi’u dominyddu gan laswellt y tywod neu laswellt rhostir porffor. Mae’r cynefinoedd hyn yn ymestyn i uchderau is ar lethrau tywodfeini a cherrig llaid y Garreg Ddiffaith a’r Grŵp Marros.