Mae dolydd gwair a thiroedd porfa yn darparu cynefin ardderchog ar gyfer bioamrywiaeth yr ardal.
Porfa Rhos
Ardaloedd o laswelltir llaith sy’n llawn rhywogaethau ac sy’n digwydd rhwng y rhostir a’r ffermdir. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau planhigion gan gynnwys y carwas troellog, ymenyn y coed, ysgallen y ddol a tharnaid y cythraul. Cysylltir y glaswelltir hwn â’r glöyn byw prin brith y gors ac mae’n cynnal bywyd adar cyfoethog gan gynnwys y gïach, y gornchwiglen a’r chwibanogl.
Dolydd Gwair
Mae’r rhain yn brin ac wedi’u diogelu. Maent yn cynnwys planhigion nodweddiadol megis y gribell felen, ytbysen y ddôl, y pengaled du a physen y ceirw. Mae mamaliaid yn fwy niferus nag yn yr ucheldiroedd ac maent yn cynnwys moch daear, carlymod, gwencïod, ffwlbartiaid, cwningod, llygod y gwaith a llygod coch. Y boncath yw’r prif ysglyfaethwr.