Amdanom ni

Pwy sy’n rhan ohono a sut caiff y Geoparc ei weinyddu

Beth yw Geoparc Byd-eang UNESCO?

Gan amlaf, mae Geoparc Byd-eang UNESCO yn ardal sy’n rhai cannoedd o filltiroedd sgwâr mewn maint. Mae’r ardaloedd hyn yn nodedig am eu treftadaeth ddaearegol ac sydd wedi’u dewis gan gymunedau lleol fel ardaloedd sydd angen eu dathlu. Mae’r ardaloedd yn eu tro wedi eu cymeradwyo gan UNESCO fel ardaloedd o bwys (neu hyd at yn ddiweddar gan EGN, y rhwydwaith Ewrop-eang). Mae’r Rhwydwaith Byd-eang hwn a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2015 bellach yn cynnwys 195 Geoparc ac mae 95 ohonynt hefyd yn aelodau o EGN a sefydlwyd yn y flwyddyn 2000.

Mae amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu hystyried yn nodweddiadol o Geoparc. Mae’r rhan fwyaf naill ai’n seiliedig ar geodwristiaeth neu addysg, gan gynnwys rhaglenni ysgolion, teithiau cerdded tywysedig ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd. Mae diogelu treftadaeth ddaearegol a gweithgareddau hyrwyddol hefyd yn weithgareddau hanfodol mewn Geoparc. Mae gweithgareddau economaidd gymdeithasol mewn Geoparciau yn bwysig ar gyfer datblygu rhanbarthol cynaliadwy.

Mae Geoparciau’n mabwysiadu ymagwedd gyfannol at eu treftadaeth ac yn hyrwyddo pob agwedd ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol eu rhanbarth.

Sefydlu Geoparc y Fforest Fawr

Mae Geoparc y Fforest Fawr yn bartneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arolwg Daearegol Prydain a Phrifysgol Caerdydd ynghyd â llu o sefydliadau eraill sydd â diddordebau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

Cafodd y Geoparc ei dderbyn i Rwydwaith Geoparciau Ewrop yn mis Hydref 2005 ac wedyn daeth yn aelod o Rwydwaith Byd-eang y Geoparciau (cymorthu gan UNESCO), ym mis Hydref 2006 .  Mae’n llofnodwr i Siarter Geoparciau Ewrop sy’n arwain y ffordd y mae’n gweithredu. Ym mis Tachwedd 2015 fe ddaeth Geoparc Fforest Fawr yn un o’r 120 aelod cyntaf sy’n ffurfio rhwydwaith byd-eang UNESCO o barciau. Mae hyn yn rhoi’r un pwysigrwydd iddo â Safle Treftadaeth y Byd fel Blaenafon yn rhan ddwyreiniol y Parc Cenedlaethol.

Mae pob Geoparc yn ymostwng i ailddilysu bob pedair blynedd gyda’r bwriad o sicrhau bod safonau gweithredu uchel yn cael eu cynnal. Hyd yn hyn mae Geoparc y fforest fawr wedi bod trwy bedwar ailddilysiad llwyddiannus – yn 2008, 2012, 2016 ac eto yn 2021.

Ein nodau

Hyrwyddo dealltwriaeth ehangach treftadaeth ddaearegol yr ardal a hyrwyddo datblygu twristiaeth gynaliadwy yn seiliedig ar y dreftadaeth honno er budd preswylwyr ac ymwelwyr i’r ardal.

Mae’r Geoparc wedi ardystio i gweledigaeth ar gyfer datblygu Geoparc y Fforest Fawr yn y dyfodol a gafodd ei datblygu gan y Grŵp Rheoli ynghyd â set o amcanion.

Grŵp Rheoli’r Geoparc

Mae’r Grŵp Rheoli’n cyfarfod dair gwaith y flwyddyn er mwyn ystyried materion strategol a pholisi ynglŷn â datblygu’r Geoparc. Mae ei aelodau’n dod o’r sefydliadau canlynol:

Partneriad eraill: Amgueddfa Cenedlaethol Cymru er enghraifft.

Cysylltu

Cysylltwch â Swyddog Datblygu Geoparc y Fforest Fawr…

Diweddarwyd y dudalen hon a 28 Gorffennaf 2023