Cronfeydd Dŵr

Un o’r deunyddiau niferus a fu ar dirwedd Geoparc y Fforest Fawr yw at gasglu dŵr. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd poblogaethau cynyddol Caerdydd, Abertawe a’r cymoedd glofaol yn edrych tua’r bryniau i’r gogledd am gyflenwad cyfleus o ddŵr ar gyfer ei yfed ac ar gyfer diwydiant.

Erbyn hyn mae gan y Geoparc ddwsin o gronfeydd dŵr yn amrywio o ran maint o’r un fechan fach ym Mhenderyn at yr un ym Mhontsticill sy’n storio 3400 miliwn o alwyni/1.5 miliwn m ciwbig o ddŵr croyw. Siapiwyd yr adeiladu ar bob un mewn ryw ffordd gan y ddaeareg leol, gyda cherrig lleol yn cael eu defnyddio i adeiladu’r argaeau a thil rhewlifol lleol yn cael ei gloddio i wneud ‘clai pwdlo’ er mwyn i’r adeilweithiau allu dal dŵr.

Mae pob un yn dal i effeithio ar y dirwedd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac mae rhai erbyn hyn yn ateb anghenion hamdden modern fel hwylio neu bysgota. Er nad yw cael mynediad uniongyrchol yn bosibl mewn llawer ohonynt, gellir eu gweld o’r ffyrdd, o’r llwybrau neu o’r wlad agored neu hyd yn oed, yn achos Pontsticill o gyfforddusrwydd cerbyd rheilffordd.

Cronfa Wysg

(Cyfeirnod grid OS:  SN 825290)

Fel mae’r enw yn awgrymu, mae’r gronfa ddŵr hon sydd ar ddwy ochr y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Phowys yn cronni blaenddyfroedd Afon Wysg. Dechreuodd Corfforaeth Abertawe ei hadeiladu ym 1950 ac fe’i hagorwyd gan EM y Frenhines Elizabeth ac EUB Dug Caeredin ar 6 Awst 1955 ac oddi ar hynny bu’n cyflenwi dŵr i Abertawe.

Roedd tyllu twnel 2370llath/2167m o dan Fynydd Myddfai i gludo dŵr o’r gronfa tua’r gorllewin yn taflu llawer o olau newydd ar ddaeareg yr ardal, gan ei fod yn rhoi trawstoriad eithriadol o ddaeareg y mynydd.

Ffeil Ffeithiau

  • Cynhwysedd: 2700 miliwn o alwyni/12.3 miliwn m ciwbig
  • Argae: 1575 troedfedd/480m o hyd x 109ft/33m o uchder
  • Mae lefel ucha’r dŵr ym 1006 troedfedd/307m uwchlaw lefel y môr

Llyn y Fan Fach

(Cyfeirnod grid OS:  SN 802218)

Efallai bod y llyn harddwych hwn sydd wedi ei osod mewn cwm rhewlifol clasurol o dan Fannau Sir Gaer ym 11,000 o flynyddoedd oed. Dyma darddle Afon Sawdde sy’n llifo yn y pen draw i Afon Tywi yn Llangadog, gan gerfio ysblander Ceunant Sawdde ar ei ffordd. Codwyd lefel y llyn yn y 1930au ar gyfer cael cyflenwad dŵr gwell i Lanelli.

Cronfa Crai

(Cyfeirnod grid OS: SN 883215)

Adeiladwyd y gronfa ddŵr gan Gorfforaeth Abertawe rhwng 1898 a 1907 gan gronni blaenddyfroedd Afon Crai ar gyfer dŵr yfed. Cloddiwyd llawer o’r tywodfaen (o Ffurfiant Cerrig Cochion) a ddefnyddiwyd wrth adeiladu’r argae lle mae Nant Gyhirych yn llifo i’r gronfa ddŵr. Daeth y cerrig nadd (Calchfaen Cil-yr-ychen) o Chwarel Penwyllt.

Ffeil Ffeithiau

  • Argae: 1250 troedfedd/381m o hyd a 144 troedfedd/44m o uchder
  • Mae lefel ucha’r dŵr ar 1001 troedfedd/305m
  • Cynhwysedd: 1007 miliwn o alwyni/4.6 miliwn m ciwbig
  • Twnel drwy’r wahanfa ddŵr i’r de

Cronfa Ddŵr Ystradfellte

(Cyfeirnod grid OS:  SN 946178)

Adeiladwyd y gronfa unig hon sy’n cau blaenddyfroedd Afon Dringarth rhwng 1907 a 1914 gan Gyngor Dosbarth Gwledig Castell-nedd a oedd am sicrhau cyflenwad dŵr gwell. Galwai hyn am adeiladu saith milltir o reilffordd newydd o Benderyn i gludo deunyddiau adeiladu i’r safle. Ymysg y deunyddiau hyn roedd calchfaen o Chwarel Penderyn, ‘clai pwdlo’ a ddeuai o’r til rhewlifol ychydig i’r de o’r fferm yng Nghilhepste Coed a thywodfaen o Rutfaen Gwaelodol yr oes Garbonofferaidd. Efallai i hwnnw gael ei godi ar Waun Hepste sy’n faes parcio bellach i’r cerddwyr sy’n ymweld â’r sgydau.

Gynt roedd traphont bren 300troedfedd/91m o hyd, 50troedfedd/15m o uchder ar draws Afon Hepste yn SN 943108.  Mae modd gweld o hyd olion y toriadau a’r argloddiau a alluogai i’r rheilffordd dros dro groesi’r wlad arw yn y dirwedd leol.

Ffeil Ffeithiau

  • Arglawdd: 920troedfedd/280m o hyd wrth 114troedfedd/35m o uchder
  • Mae lefel uchaf y dŵr ym 1204troedfedd/367m uwchlaw lefel y môr

Cronfa Ddŵr Penderyn

(Cyfeirnod grid OS:  SN 938072)

Dechreuodd CDG Aberpennar weithio ar y gronfa gadw hon ym 1911. Roeddent yn cael clai pwdlo o’r caeau o amgylch yr is-ffordd rhwng Penderyn a Rhigos.  Cloddiwyd tywodfaen Grutfaen Melinfaen yn SN 933079. Fe’i cwblhawyd ym 1920.

Cronfeydd Dŵr Cwm Taf Fawr:

Adeiladwyd tair cronfa yng nghwm Taf Fawr gan Gorfforaeth Caerdydd. Y gynharaf o’r rhain oedd Cantref, y dechreuwyd arni ym 1886 a’i gorffen 6 blynedd wedyn. Dilynwyd honno gan un Y Bannau a agorwyd ym 1897 ac yn olaf gan gronfa Llwyn-onn a gwblhawyd ym 1926 ar ôl 16 blynedd o waith adeiladu.

Cafwyd y clai pwdlo ar gyfer pob un o eiddo Gwaith Cyfarthfa yn ymyl tŷ tafarn Six Bells ym Mhen-yr-heolgraig (er i beth ddod yn ddiweddarach o Gastell-nedd a Phengam). Cloddiwyd cerrig yn Chwarel Sychpant ger Afon Taf yng Nghefn-coed-y-cymer (SO 0208) er i wenithfaen o Gernyw gael ei ddefnyddio i roi wyneb ar y gored a grisiau’r sianeli gorlif. Adeiladwyd rheilffordd i fyny’r cwm o Ferthyr Tudful a gellir dilyn ei llwybr o hyd ar ochr orllewinol yr afon mewn mannau.

Ffeil Ffeithiau

Cantref

(Cyfeirnod grid OS:  SN 993157)

  • Mae lefel ucha’r dŵr ym 1073troedfedd/327m
  • Cynhwysedd: 323 miliwn o alwyni /1.5 miliwn m ciwbig

Cronfa Ddŵr y Bannau

(Cyfeirnod grid OS:  SN 986186)

  • Cynhwysedd: 160 miliwn o alwyni/0.75 miliwn m ciwbig > 345 miliwn/1.6 miliwn m ciwbig
  • Mae lefel ucha’r dŵr ym 1340troedfedd/408m

Cronfa Ddŵr Llwyn-onn

(Cyfeirnod grid OS:  SO 0007120)

  • Cynhwysedd: 670 miliwn o alwyni/3 miliwn m ciwbig >1260 miliwn /5.7 miliwn m ciwbig
  • Mae lefel ucha’r dŵr yn 854troedfedd/260m

Cronfeydd Dŵr Cwm Taf Fechan:

Adeiladwyd cronfa ddŵr Pentwyn rhwng 1859 a 1863 gan Fwrdd Iechyd Merthyr Tudful. Cafwyd ei bod yn gollwng dŵr yn ddifrifol am i’r argae gael ei godi ar y ffawt fawr a elwir yn Gylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd.

Yn rhannol oherwydd y problemau a gafwyd yng nghronfa Pentwyn, adeiladodd Corfforaeth Merthyr Tudful Gronfa Ddŵr Neuadd Isaf ym 1884.  Er mwyn hwyluso’r adeiladu, adeiladwyd llinell rheilffordd dros dro o arosfa Torpantau ar Reilffordd Cyffordd Aberhonddu a Merthyr. Mae ei llwybr bellach yn llwybr ceffylau a ddilynir gan Daith Taf.

Adeiladwyd Cronfa Ddŵr Neuadd Uchaf rhwng 1896 a 1902 yn rhannol o galchfaen a gloddiwyd ger Dowlais a gludwyd drwy ddefnyddio’r un rheilffordd. Cafwyd cerrig eraill o chwareli rhwng Pant a Phontsticill yn is i lawr y cwm. Gyda lefel dŵr o 1506troedfedd/459m, y gronfa hon yw’r uchaf yn Geoparc y Fforest Fawr ac yn wir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cwblhawyd Cronfa Ddŵr Taf Fechan neu Bontsticill mwy o lawer ym 1927 gyda chynhwysedd cludo o dros 3000 miliwn o alwyni/13.6 miliwn m ciwbig.  Cafwyd y clai pwdlo ar gyfer yr argae pridd hwn o Bengarnddu i’r gogledd o Ben Dowlais.

Ffeil Ffeithiau

Cronfa Ddŵr Neuadd Uchaf

(Cyfeirnod grid OS:  SO 029191)

  • Cynhwysedd: 340 miliwn o alwyni /1.55 miliwn m ciwbig Capacity: 340 million gallons/1.55 million cu. m
  • Argae: 75troedfedd/22m o uchder

Cronfa Ddŵr Neuadd Isaf

(Cyfeirnod grid OS:  SO 030182)

  • Mae lefel ucha’r dŵr ym 1413troedfedd/431m

Cronfa Ddŵr Pentwyn

(Cyfeirnod grid OS:  SO 052151)

  • Cynhwysedd: 346 miliwn o alwyni /1.57 miliwn m ciwbig
  • Mae Dolygaer yn enw arall arni

Cronfa Ddŵr Ponsticill

(Cyfeirnod grid OS:  SO 055132)

  • Cynhwysedd: 3290 miliwn /15 miliwn > 3400 miliwn o alwyni /15.5 miliwn m ciwbig
  • Mae lefel ucha’r dŵr ym 1070troedfedd/326m > 1082troedfedd/330m lefel dŵr
  • Arglawdd: 110troedfedd/34m o uchder

Cronfa Ddŵr Senni – yr un na fu!

(Cyfeirnod grid OS:  SN 925230)

Cynigiwyd cynllun dadleuol yn y 1960au ar gyfer cronfa ddŵr a fyddai wedi boddi rhannau uchaf Cwm Senni. Rhoddwyd y gorau i’r cynllun yn dilyn protestiadau lleol ac mae’r cwm yn aros heb newid.

Darllen pellach:

‘Reservoir Builders of South Wales’ (cyfres Dam Builders in the Age of Steam llyfr chwech)  Bowtell H.D. a Hill G. – allan o brint on trio llyfrgell!