Y Cyfnod Jurasig

(201 i 145 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Ni chredir bod unrhyw greigiau o’r oes hon wedi’u cadw o fewn Geoparc y Fforest Fawr. Mae’r creigiau Jurasig agosaf sydd wedi’u cadw i’w gweld ar draws Bro Morgannwg ac yng Nghasnewydd ar Aber Hafren. Roedd rhannau helaeth o Gymru yn dir yn ystod y cyfnod er y credir bod lefelau’r môr wedi amrywio’n sylweddol.

Beth sydd mewn enw?

Daw enw’r cyfnod hwn o Fynyddoedd Jura dwyrain Ffrainc lle mae digonedd o greigiau o’r oes hon.