Elidyr

Tua diwedd y 12fed ganrif adroddodd Gerallt Gymro stori bachgen o’r enw Elidyr (neu Elidorus) a redodd i ffwrdd yn ifanc iawn rhag athro creulon a chuddiodd ei hun mewn pant ger Afon Nedd.

Wrth iddo guddio yn y guddfan hon, daeth dau ddyn bach at y bachgen a’i arwain drwy ogof i wlad hardd iawn llawn cyfoeth lle’r oedd yr holl bobl yn fach ond yn hynod o hardd gyda gwallt aur sidanaidd.  Cafodd Elidyr ei gyflwyno i Frenin y byd arall hwn, ac yn ddiweddarach treuliodd ei amser yn chwarae gyda phelen aur gyda mab y Brenin.

Ar ôl tipyn o amser daeth Elidyr o hyd i’r ffordd yn ôl i’n byd ni ac wrth iddo gyrraedd adref a chael ei groesawu gan ei fam, dywedodd y stori wrthi.  Gwnaeth lawer mwy o deithiau yn ôl ac ymlaen.  Ar un o’r achlysuron hyn erfynodd ei fam dlawd ar ei mab i ddod â’r belen aur yn ôl gydag ef, er mwyn iddynt fod yn gyfoethog, felly i ffwrdd ag ef.  Wrth chwarae unwaith eto gyda mab y Brenin, dygodd y bêl ac aeth yn ôl tuag at ein byd ni. Cafodd ei ddilyn yn gyflym iawn gan y ddau ddyn bach a’i daliodd wrth iddo faglu i ffwrdd.  Gwnaethant gipio’r bêl yn ôl a’i adael y tu allan i’r ogof gan ei geryddu am fradychu eu hymddiriedaeth ynddo.

Ar ôl y digwyddiad hwn, er iddo geisio llawer o weithiau i fynd yn ôl i mewn i’r byd arall hwnnw ni lwyddodd byth i ddod o hyd i’r ffordd yn ôl eto.  Yn y pen draw cymhwysodd Elidyr fel offeiriad ac fel ‘Elidorus’ adroddodd y stori hon i’w archesgob rai blynyddoedd wedyn.