ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
P
Palaeogen / Palaeogene
Yr enw ar yr hynaf o’r ddau gyfnod daearegol newydd sydd wedi disodli’r Cyfnod Tertaidd. Parhaodd y cyfnod hwn am 43 miliwn o flynyddoedd rhwng 66 a 23 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac fe’i dilynwyd gan y cyfnod Neogen.
Palaeosöig / Palaeozoic
Ystyr y term yw ‘bywyd hynafol’. Mae’r gorgyfnod daearegol hwn yn cynnwys y cyfnodau Cambriaidd, Ordofigaidd, Silwraidd, Defonaidd a Charbonifferaidd. Fe’i dilynir gan y gorgyfnod Mesosöig.
Pangaea / Pangaea
Arch-gyfandir a ddaeth i fodolaeth yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd cyn iddo raddol chwalu’n ddarnau gan esgor ar y casgliad presennol o gyfandiroedd. Amgylchynwyd Pangaea gan Gefnfor Panthalasa.
Permaidd / Permian
Cyfnod daearegol a barhaodd am 47 miliwn o flynyddoedd rhwng 299 a 252 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.
pant iâ llonydd / kettlehole
Pant ar wyneb gwaddodion rhewlifol a grëwyd wrth i dalp mawr o iâ a oedd ynghladd yn y dyddodion ddadmer. Gall y pant fod yn sych neu’n gorslyd, neu fe all gynnwys pwll neu lyn.
Pridoli / Pridoli
Epoc diweddaraf y Cyfnod Silwraidd pan gafodd creigiau Ffurfiannau Cerrig Llaid Rhaglan a Temeside eu dyddodi. Yr epoc hwn hefyd yw rhan gynharaf (h.y. isaf) yr Hen Dywodfaen Coch. Gweler siart amser Silwraidd.
Prif Galchfaen Carbonifferaidd / Main Limestone
Cyfres o galchfeini a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Fiseaidd y Cyfnod Carbonifferaidd.
PH
Dim termau.