Seminar Ymchwil y Geoparc 2011 – crynodebau

    SEMINAR YMCHWIL

2011

“Fforest Fawr – Datblygu Potensial Ymchwil y Geoparc”

Crynodebau

Gyda Chefnogaeth:

Arolwg Daearegol Prydain, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog


Croeso i Seminar Ymchwil Geoparc y Fforest Fawr 2011 yng Nghanolfan Ymwelwyr Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Garwnant

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i’ch croesawu i’r Seminar Ymchwil Blynyddol hwn, yr ail i’w gynnal dan nawdd Geoparc Ewropeaidd Fforest Fawr. Yn fwyaf neilltuol rwyf am ddiolch i’n holl siaradwyr am eu cyfraniadau ac am amlygu’r gwaith ymchwil cyffrous sydd wedi ei ddwyn i ben ers y llynedd, yn ogystal ag archwilio meysydd ymchwil newydd at y dyfodol.

Wrth i’r Geoparc edrych at gael ei ail ailddilysu gan Rwydwaith Geoparciau Ewrop y flwyddyn nesaf, y cysyniad o  ymestyn potensial ymchwil wyddonol yr ardal yw thema’r seminar eleni. Gyda galw cynyddol ar amser ac adnoddau cyfyng, nid yw’r angen i gynhyrchu ymchwil gymwysedig wedi’i thargedu sy’n cynorthwyo rheoli’r tir ac yn gefn i lunwyr polisi allu cwrdd â’r blaenoriaethau addysgol erioed wedi bod yn fwy. Ar yr un pryd mae archwilio’n fanwl safleoedd a allai gynnig atebion i rai o heriau amgylcheddol y dydd, heddiw a’r dyfodol agos, yn aros cyn bwysiced ag erioed.  Efallai’n wir y bydd rhoi ystyriaeth i sut mae cael cydbwysedd rhwng blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd yn bwnc ar gyfer y Sesiwn Drafod ar ddiwedd y cyfarfod.

Mae’r ymrwymiad a’r gefnogaeth sy’n dal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Aelodau’r Parc Cenedlaethol i gysyniad y Geoparc yn aros cyn bwysiced ag erioed, ac mae gwaith bellach ar droed, o dan nawdd EGN, i archwilio sut mae cysyniad y Geoparc yn gwneud gwahaniaeth yn nhiriogaethau gwahanol ac amrywiol y rhwydwaith, a gall datblygu cynaliadwy yn hawdd fod yn thema yn seminarau’r dyfodol.

Mae’r Geoparc, fodd bynnag, ynghylch meithrin partneriaethau a pharhau â chefnogaeth ac ymrwymiad cyrff cyhoeddus, sefydliadau academaidd a mentrau preifat er lles y cymunedau lleol ac ymwelwyr, ac mae’r gefnogaeth sy’n parhau gan Arolwg Daearegol Prydain a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i’r achlysur hwn yn cael ei gwerthfawrogi.

Cynullydd

Dr Adrian Humpage

Arolwg Daearegol Prydain, Caerdydd

SEMINAR YMCHWIL 2011

“Fforest Fawr – Datblygu Potensial Ymchwil y Geoparc”

Yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cwm Taf

MYNEDIAD AM DDIM

Rhaglen y Cyflwyniadau

9.30                 Cyrraedd a Choffi

10.00               Croeso a Chyflwyniad

10.15               Geoparc y Fforest Fawr – ardal o botensial ymchwil

Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

10.45               Ymchwiliadau Archaeolegol yn Geoparc y Fforest Fawr: enghreifftiau diweddar a chyfleoedd yn y dyfodol 

Louise Austin, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed 

11.15               Safleoedd Daearegol Rhanbarthol Pwysig yn Geoparc y Fforest Fawr  – rhwydweithiau a dosbarthiad

Dr Adrian Humpage, Arolwg Daearegol Prydain, Caerdydd

11.45               Modelu Ffurfiant Cerrig Cochion De Cymru – Rhan 2

Dr John Davies a Rhian Kendall

12.15               Datblygu Cynllun Gweithredu Geoamrywiaeth Lleol

Dr Adrian Humpage, Arolwg Daearegol Prydain, Caerdydd

12.45 – 1.45                Cinio*

1.45                 Ymagwedd sedimentolegol a phalynolegol at benderfynu tarddiad ffurf y tir a ddyddodwyd yng Nghwm Llwch, Bannau Brycheiniog, De Cymru

Francesca Ellis, Prifysgol Swydd Gaerloyw

2.15                 Spectrosgopeg Maes ar y Mynydd Du

Shaun Lewis a Judith Harvey, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

2.45                 Defnyddio modelu GIS, synhwyro o bell ac efelychiad tân i asesu’r difrod o danau gwyllt ar rostir ar Fannau Brycheiniog

John Phillips, Prifysgol Aberystwyth

3.15 – 3.30                  Te

3.30                 Deall Rhewlifiant Ymylol Cwaternaidd Diweddar ym Mhrydain – Ymchwilio i’r Rhyngberthynas rhwng Hinsawdd, Topograffi a Deinameg Rhewlifau

Eleri Harris, Prifysgol Abertawe

4.00 – 4.30      Trafodaeth

Gwahoddir cyflwyniadau posteri i’w harddangos yn ystod y seminar

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dr Adrian Humpage Ffôn: 029 2052 1962 E-bost: ajhu@bgs.ac.uk 

* Ni ddarperir cinio ond gallwch gael pryd bach yn nhŷ bwyta “Just Perfect” Garwnant

  Crynodebau: Cyflwyniadau Llafar

Geoparc y Fforest Fawr – ardal o botensial ymchwil

Alan Bowring

Swyddog Datblygu’r Geoparc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,  Plas-y-ffynnon, Cambrian Way, Aberhonddu LD3 7HP.

Alan.Bowring@breconbeacons.org

Cyflwyniad sy’n amlinellu maint Geoparc y Fforest Fawr, ei ddaeareg, ei atyniadau a’r lle sydd yna i gynnal ymchwil mewn gwyddoniaeth amgylcheddol, cyfleoedd geotwristiaeth a phynciau eraill.

Mae ffurfio’r creigiau solet sydd o dan yr ardal yn ymestyn dros gyfnod o bron i 200 miliwn o flynyddoedd, o 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl i 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl; mae’r tywodfeini, y cerrig llaid a’r cerrig silt Ordoficaidd a Silwraidd ffawtedig a phlygedig yn nodweddiadol o ogledd-orllewin y geoparc ac mae dilyniant Hen Dywodfaen Coch yn  tra-arglwyddiaethu yn y dwyrain a’r canol. I’r de ceir cwestau toredig dilynol o Galchfaen Carbonifferaidd, Tywodfaen Twrch a’r Garreg Ddiffaith gyda dyffrynnoedd taro rhyngddynt gyda cherrig llaid oddi tanynt.

Gadawodd yr oesoedd iâ Cwarternaidd etifeddiaeth erydol a dyddodol ac mae presenoldeb dyn yn y dirwedd dros yr 8000 o flynyddoedd diwethaf wedi gadael ôl cynyddol drwy amaethyddiaeth, diwydiant, coedwigaeth a thwristiaeth.

Mae’r Geoparc yn ceisio dweud pob un o’r straeon hyn mewn ffordd ddiddorol a holistaidd, gan wneud cysylltiadau rhwng y disgyblaethau gwahanol. Mae’n un o 9 ardal ddynodedig o’r fath sy’n gwneud hynny yn Ynysoedd Prydain, ac un o 48 ar draws Ewrop (Rhwydwaith Geoparciau Ewrop) ac o blith tua 88 ar draws y byd (Rhwydwaith Geoparciau’r Byd).

Ymchwiliadau Archaeolegol yn Geoparc y Fforest Fawr: enghreifftiau diweddar a chyfleoedd yn y dyfodol

Louise Austin

Pennaeth Rheoli Treftadaeth, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Neuadd y Sir, Heol Caerfyrddin, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6AF.

l.austin@dyfedarchaeology.org.uk

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi ymgymryd â nifer o ymchwiliadau ar safleoedd archaeolegol yn y Geoparc. Bydd y cyflwyniad hwn yn ymdrin â rhai o’r canlyniadau ac yn cynnwys y cloddio ar grug o’r Oes Efydd ar gopa Fan Foel, y Mynydd Du ac arolwg manwl ar gaer fechan Rufeinig y Waun Ddu, Mynydd Myddfai.

Cyflwynir diweddariad cryno ar waith sylweddol a wnaed gan gyrff archaeolegol eraill yn yr ardal a bydd yn cynnwys y ddadansoddi cyfredol ar yr ymchwiliadau archaeolegol sy’n gysylltiedig â’r bibell nwy ar draws Mynydd Myddfai.

Caiff cyfleoedd ymchwil i’r dyfodol hwythau eu harchwilio lle mae archaeoleg, daeareg a bioamrywiaeth yn dod at ei gilydd ar safle gwaith calch Chwarel Herbert ar y Mynydd Du.

Safleoedd Daearegol Rhanbarthol Pwysig yn Geoparc y Fforest Fawr  – rhwydweithiau a dosbarthiad

Dr Adrian Humpage

Arolwg Daearegol Prydain, Tŷ Columbus, Greenmeadow Springs, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7NE.

ajhu@bgs.ac.uk

Mae archwiliad tair blynedd RIGS (Safleoedd Geoamrywiaeth Rhanbarthol Pwysig) De Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gronfa Cynaliadwyedd Ardoll Agregau Cymru (ALSFW) bellach ar ei gamau olaf, ac am y tro cyntaf, bydd rhestr gynhwysfawr o safleoedd daearegol anghofrestredig ar gael i’r awdurdodau lleol eu hystyried yn eu polisïau cynllunio, fel yr amlygir yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5 Llywodraeth Cymru.

Ar draws Geoparc y Fforest Fawr, mae cyfres o RIGS wedi eu nodi a’u grwpio yn gyfres o “rwydweithiau” daearegol, sy’n disgrifio’r rhesymwaith gwyddonol y tu ôl i ddynodiad pob un a’r berthynas rhwng y safleoedd RIGS unigol, a rhwng RIGS a safleoedd cofrestredig megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae cwblhau’r archwiliad felly’n creu cyfleoedd i ddehongli ac astudio gwyddonol yn y dyfodol yn y Geoparc yng nghyd-destun rhanbarth de Cymru yn ehangach.

Modelu Ffurfiant Cerrig Cochion De Cymru – Rhan 2

Dr John Davies1 a Rhian Kendall2

1 Fforwm Cerrig Cymru, dan ofal Dr Jana Horak, Yr Adran Ddaeareg, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3YE.

sion_cwm_hir@hotmail.com

2 Arolwg Daearegol Prydain, Tŷ Columbus, Greenmeadow Springs, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7NE.

rhnd1@bgs.ac.uk

Dealltwriaeth wael iawn sydd gennym ar stratigraffeg a phalaeogeograffeg y Ffurfiant Cerrig Cochion. Er bod yr ardal mae’r ffurfiant ynddi yn ymestyn dros ran fawr o dde Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr sy’n gyfagos, nid yw wedi bod yn bosibl, hyd yn hyn, i gynhyrchu model ar gyfer dyddodiad y dilyniant Cerrig Cochion. Mae meddalwedd cyfrifiadur newydd sydd ar gael gan ADP wedi ei gwneud yn bosibl adeiladu model o’r fath, ar sail data a gasglwyd dros y blynyddoedd sydd i’w cael yn archifau ADP ac ar sail  data maes a gasglwyd yn ddiweddar. Mae’r technegau a ddefnyddir yn gymharol syml, ond dylai’r canlyniadau roi i ni ddarlun newydd o balaeogeograffeg  rhan fawr o ardal y Geoparc yn ystod y Cyfnod Defonaidd.

Datblygu Cynllun Gweithredu Geoamrywiaeth Lleol

Dr Adrian Humpage

Arolwg Daearegol Prydain, Tŷ Columbus, Greenmeadow Springs, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7NE.

ajhu@bgs.ac.uk

Mae Cynlluniau Gweithredu Geoamrywiaeth Lleol yn cynnig mecanwaith i sefydlu astudio, dehongli a rheoli treftadaeth ddaearegol y rhanbarth, boed ar sail safleoedd unigol neu asesiadau tirwedd, mewn fframwaith i lunwyr polisi a chymunedau lleol, ac adnabod cyfleoedd ar gyfer mwy o amddiffyn a sicrhau datblygu economaidd cynaliadwy.

Mae gwyddorau’r ddaear yn effeithio ar bron bob agwedd ar gymeriad rhanbarth, o leoliad aneddiadau i arferion defnydd tir, o fasnau llynnoedd i chwareli wedi’u cloddio. Felly mae geoamrywiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn yr amgylchedd yn ehangach, ac mae polisïau sy’n darparu ar gyfer gwell amddiffyn a rheoli ar geoamrywiaeth hefyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r cysylltiadau hanfodol rhwng agweddau bywyd gwyllt, diwylliannol a hanesyddol yr amgylchedd rydym yn byw ynddo.

Mae llawer o’r agweddau hyn wedi eu hen sefydlu neu ar droed gyda Geoparc y Fforest Fawr, ond efallai y bydd ar elfennau eraill angen adnoddau neu ystyriaeth ychwanegol cyn y gellir sicrhau integreiddio llawn.

Ymagwedd sedimentolegol a phalynolegol at benderfynu tarddiad ffurf y tir a ddyddodwyd yng Nghwm Llwch, Bannau Brycheiniog, De Cymru

Francesca Ellis

Prifysgol Swydd Gaerloyw, Swindon Road, Cheltenham, GL50 4HZ.

francesca.j.ellis@gmail.com

Ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar benderfynu ar darddiad y gefnen ddyddodion o amgylch Llyn Cwm Llwch ym Mannau Brycheiniog. Roedd llenyddiaeth flaenorol ynghylch y safle yn cyfeirio bod peth amwysedd ynghylch ei darddiad, yn bennaf a oedd wedi ei ddyddodi gan rewlif ac, os oedd, a oedd hynny yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifol Hwyr neu Is-gyfnod Rhewlifol Loch Lomond.

Cymerwyd craidd gwaddod o berifferi’r llyn. Cymharwyd y dilyniant gwaddod yn y craidd â safleoedd eraill yr oeddid yn gwybod eu tarddiad ym Mannau Brycheiniog. Cymerwyd  samplau o’r craidd ar gyfer dadansoddiad palynolegol (dadansoddi paill)  a thrwy hynny cafwyd hanes dilyniant ecolegol y safle. Dosbarthwyd y newidiadau mewn paill drwy’r craidd yn ‘fioparthau’ a’u cymharu â ‘bioparthau’ eraill a grewyd ar gyfer safleoedd eraill y gwyddys eu tarddiad ym Mannau Brycheiniog ac Eryri.

Roedd cymharu’r ddwy linell o dystiolaeth yn dangos bod y gefnen o amgylch Cwm Llwch wedi ei dyddodi o ganlyniad i rewlif peiran bychan a ffurfiwyd yn ystod Is-gyfnod Loch Lomond.

Spectrosgopi Maes ar y Mynydd Du

Shaun Lewis a Judith Harvey

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,  Plas-y-ffynnon, Cambrian Way, Aberhonddu LD3 7HP. Shaun.Lewis@breconbeacons.org

Defnyddio modelu GIS, synhwyro o bell ac efelychiad tân i asesu’r difrod oherwydd tanau gwyllt ar rostir ym Mannau Brycheiniog

John Phillips*

Prifysgol Aberystwyth

*Cyfeiriad Gohebu:Cyngor Sir Powys

john.phillips@powys.gov.uk

Edrychwyd ar y difrod o ganlyniad i dân gwyllt yn ardal Mynydd Isaf Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (PCBB) yng ngwanwyn 2011 drwy ddefnyddio GIS, synhwyro o bell a thechnoleg efelychu tân. Cynhyrchwyd mapiau risg tanau gwyllt yn ArcGIS, a defnyddiwyd efelychwyr tanau FARSITE a FlamMap i fodelu dwyster y tân a faint a ledodd. Casglwyd gwybodaeth am hyd a lled y difrod a wnaed gan y tân drwy ddefnyddio GPS o ymweliadau safle a wnaed ym Mehefin 2011. Dosbarthwyd y cynefinoedd ar eCognition (meddalwedd synhwyro o bell) ac yna, ynghyd â setiau data eraill, gan gynnwys agwedd, llethr a llwybrau mynediad, defnyddiwyd hwy i gynhyrchu mapiau risg tanau gwyllt mewn ArcGIS. Dangosai’r rhain mai mawn agored ar orgorsydd a rhosydd dan lus yn bennaf oedd y cynefinoedd gyda’r risg fwyaf, yn enwedig pan oeddent yn digwydd ar lethrau mwy gwastad yn wynebu o’r gogledd i’r gogledd orllewin yn agos at lwybrau mynediad, e.e. ffyrdd. Defnyddiwyd FARSITE i fodelu’r tanau gwyllt yn ymledu, gan ddefnyddio gwybodaeth ofodol ac amser ar dopograffi, tanwydd, a’r tywydd. Cymharwyd canlyniadau hyn gyda’r arsylwadau ar ledaeniad y tanau gan staff PCBB, a oedd yn dangos cymhariaeth ffafriol. Defnyddiai FlamMap yr un wybodaeth â FARSITE, ond roedd yn gallu dangos  cyfradd ragfynegedig y lledaenu a dwyster y tân dros ardal gyfan yr astudiaeth. Dangosai’r canlyniadau fod cyfradd y lledaenu a dwyster y tân yn llawer mwy ar rosydd grug aeddfed na chynefinoedd eraill. Mae canlyniadau mapio risg tanau gwyllt a modelu efelychiad tân wedi dangos y gall GIS, synhwyro o bell a thechnoleg efelychiad tân gynorthwyo wrth gynllunio camau rhwystro tân a gadael i ymladdwyr tanau roi blaenoriaeth i’r ardaloedd hynny mae angen iddynt ganolbwyntio arnynt cyn iddynt fynd allan o reolaeth.

Deall Rhewlifiad Ymylol Cwaternaidd Diweddar ym Mhrydain – Ymchwilio i’r Rhyngberthynas rhwng Hinsawdd, Topograffi a Deinameg Rhewlifau

Eleri Harris Adran Daearyddiaeth, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP.

s.e.harris.604423@swansea.ac.uk

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn anelu at ymchwilio, drwy ystod o dechnegau, i fodolaeth rhewlifiad ymylol yr ucheldir ar hyd Llen Iâ Prydain Iwerddon yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifol Hwyr a rhewlifau diweddar. Mae rhewlifiad ar raddfa lai y tu allan i gapiau iâ heb gael sylw i raddau helaeth mewn ymchwil hyd yn hyn, yn enwedig yng Nghymru. Archwilir sensitifrwydd i reolaethau hinsawdd a thopograffi yn ychwanegol at ddeinameg rhewlifau.

Mae gwerthfawrogi maint a deinameg rhewlifau’r gorffennol yn hanfodol i ymchwilio i sensitifrwydd hinsoddol rhewlifau, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau hinsoddol byr eu hoes fel Is-gyfnod Loch Lomond (ILL). Ymgymerir felly ag ail-lunio rhewlifau ar safleoedd dethol ar draws ardaloedd o ucheldir, gan gynnwys ym Mannau Brycheiniog a Geoparc y Fforest Fawr, er mwyn cyfyngu maint y rhewlifiadau lleol a galluogi cyfrifo newidynnau palaeorewlifol a phalaeohinsoddol e.e. uchder a dyddodiad llinell ecwilibriwm.  Credwyd o’r blaen fod rhewlifau ymylol yn yr ardaloedd hyn yn cynrychioli Is-gyfnod Loch Lomond ond bydd yn rhaid ymchwilio i hyn ymhellach, gan ystyried tarddiad rhewlif hwyr cynharach. Archwilir amgylcheddau rhewlifol cyfoes yn ne Norwy, lle ceir rhewlifiad peiran nodweddiadol wedi’u cyfyngu i fasnau peiran yn gyffredin, er mwyn cynnig analog modern ar gyfer rhewlifiadau ymylol sy’n debyg o fod wedi digwydd yng Nghymru.

Mabwysiadir ymagwedd aml brocsi at ail-lunio ar gyfer yr amgylchedd palaeo a modern fel ei gilydd, gyda dadansoddiadau hanfodol yn dod o ddata geomorffolegol a sedimentolegol i adeiladu stratigraffi morffo- a litho- a chreu system tir rewlifol i bob maes astudio. Bydd y technegau geomorffolegol yn cynnwys mapio maes manwl ar dirffurfiau rhewlifol a chysylltiedig yn ychwanegol at adolygu delweddau wedi’u synhwyro o bell. Yna cymhwysir technegau sedimentolegol maes a labordy traddodiadol o ddatguddiad fel tystiolaeth gefnogol ar darddiad ffurf y tir. Bydd modelu rhewlifolegol sylfaenol, fel yr amlinellwyd mewn cyhoeddiadau diweddar, yn rhoi prawf ar yr ail-luniadau ac yn ychwanegu manwl gywirdeb ychwanegol atynt.

Rhagwelir y bydd yr astudiaeth hon yn cynnig tystiolaeth newydd am rewlifiad ymylol ym Mhrydain yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifol Hwyr a rhewlifiad hwyr ac yn ceisio cynyddu ein dealltwriaeth o sensitifrwydd hinsoddol a thopograffigol y masau iâ hyn yn ardaloedd ucheldir Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r canfyddiadau yn debyg o lywio ymchwil yn y dyfodol a dehongli Llen Iâ diwethaf Prydain Iwerddon.