Treftadaeth o losgi calch ar raddfa eang
Wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y Geoparc mae odynnau calch o siapiau a meintiau gwahanol mewn sawl cyflwr o syrthio oddi wrth ei gilydd. Maent yn ein hatgoffa am amser a fu pan oedd llosgi calch i gynhyrchu calch brwd yn ddiwydiant pwysig. Roedd defnydd helaeth ar galch i wneud morter calch cyn dyfodiad sment modern a defnyddid ef hefyd i wella tir amaethyddol. Roedd sawl defnydd arall arno hefyd,
Yn ei hanfod calsiwm carbonad (CaCO3) yw calchfaen. Pan losgir calchfaen ar dymheredd dros 900oC – proses o’r enw calchynnu – rhyddheir nwy carbon deuocsid a gadewir gweddill o galch brwd (calsiwm ocsid neu CaO).
CaCO3 -> CaO + CO2
Mae ychwanegu dŵr at hwn – gelwir hyn yn slacio – yn rhoi calch tawdd (calsiwm hydrocsid neu Ca(OH)2).
CaO + H20 -> Ca(OH)2
Bydd calch tawdd yn adweithio’n araf gyda charbon deuocsid a dŵr yn yr atmosffer i droi’n ôl yn galsiwm carbonad – dyma sydd yn ei wneud yn sment defnyddiol ar gyfer clymu briciau neu gerrig wrth ei gilydd.
Adeiladwyd odynnau calch lle gellid dod â chalchfaen a’r tanwydd i’w losgi at ei gilydd. Yn gyffredinol pren fyddai’r tanwydd. Gellir dod o hyd iddynt yn aml wrth ochrau camlesi, ffyrdd neu reilffyrdd a fyddai wedi galluogi dod â’r calchfaen a’r pren (neu lo) atynt a mynd â’r calch yn rhwydd i gael ei ddefnyddio yn rhywle arall.
Mae nifer o enghreifftiau gwych yn aros mewn amryw o leoedd yn y Geoparc:
- i’r de o’r gamlas yn Y Watwn, Aberhonddu,
- hen lofa Cwm Henllys yng Nghwm Twrch,,
- Chwarel Herbert oddi ar ffordd Llangadog/Brynaman
- Penwyllt ym mhen uchaf Cwm Tawe.