Y Cyfnod Carbonifferaidd

(359-299 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Y stori fawr . . .

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Prydain yn gorwedd fwy neu lai ar y Cyhydedd ac felly roedd iddi hinsawdd drofannol. Wrth i lefelau moroedd y byd godi ar ddechrau’r cyfnod hwn, cafodd y gorlifdiroedd blaenorol hyn eu gorlifo i ffurfio môr bas a oedd yn ymestyn ar draws llawer o dde Cymru. Mae’n bosibl bod yr olygfa’n debyg i Fflorida a’r Bahamas heddiw gyda digonedd o gwrelau’n tyfu mewn moroedd cynnes lle roedd braciopodau, math o bysgod cregyn, hefyd yn ffynnu.

Ymhen amser, roedd y moroedd bas hyn unwaith eto yn orlawn gyda thywod a llaid a gludwyd gan afonydd o’r Mynyddoedd Caledonaidd i’r gogledd. Yn ddiweddarach, cafodd deltâu afonydd eu cytrefu gan blanhigion a bu coedwigoedd corsiog trwchus yn tyfu ar eu traws.

Tua diwedd y cyfnod, bu cyfnod arall o adeiladu mynydd – yr ‘Orogeni Farisgaidd’.  Digwyddodd hyn o ganlyniad i’r gwrthdrawiad, i’r de o’n hardal ni, o gyfandiroedd micro Armorica ac Iberica gyda Lawrwsia. Dechreuodd y rhanbarth mynyddig mawr, a grëwyd o ganlyniad, erydu a diosg dyddodion i’r gogledd. Gallwn weld y dyddodion hyn erbyn hyn fel Tywodfeini Pennant Maes Glo De Cymru.

Etifeddiaeth y creigiau. . .

Mae creigiau o’r cyfnod Carbonifferaidd yn ffurfio tirweddau ysblennydd ym mhob rhan o Brydain ac nid ydynt yn siomi yn Geoparc y Fforest Fawr.

Er hwylustod, gellir eu rhannu yn dair haenen, yr isaf – y Calchfeini – sef y rhai cyntaf i gael eu ffurfio, a ddilynwyd gan y Grŵp Marros, yna Haenau’r Glo:

  • Haenau Glo De Cymru
    Cerrig llaid a thywodfeini o drwch o hyd at 1200m gyda gwythiennau glo. Dyddodwyd yr Haenau Glo yn ystod y cyfnod Westffalaidd.
  • Y Grŵp Marros
    Cerrig llaid a thywodfeini o drwch o hyd at 130m. Dyddodwyd y Grŵp Marros yn ystod y cyfnod Namuraidd. Roedd y creigiau hyn yn hysbys gynt fel ‘Cyfres y Grutfaen Melinfaen’.
  • Uwch-grŵp Calchfaen Carbonifferaidd
    Calchfeini gydag ychydig o dywodfeini a siâl o drwch o hyd at 180m. Dyddodwyd y Calchfaen Carbonifferaidd yn ystod y cyfnod Dinantaidd.

Ewch i’r Llinell Amser Carbonifferaidd.

Beth sydd mewn enw?

Rhoddir yr enw hwn ar y cyfnod oherwydd y symiau mawr o lo a ffurfiwyd ar yr adeg honno (‘carbonifferaidd’ = ‘dwyn glo’). Mae Westffalia, Namur a Dinant yn rhanbarthau yng ngorllewin yr Almaen a Gwlad Belg ac maent wedi rhoi eu henwau i israniadau’r cyfnod Carbonifferaidd yn y llinell amser ddaearegol ryngwladol.