H

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

Haenau’r Llwyfandir / Plateau Beds

Dilyniant o dywodfeini a thywodfeini amryfaenog gwydn a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Defonaidd Uchaf. Maent yn ffurfio copaon nifer o Fannau uchaf Geoparc Fforest Fawr.

haenlin forol / marine band

Haen o waddod, yn enwedig yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd, yn cynnwys nifer fawr o ffosilau o greaduriaid môr. Mae’r fath haenlinau yn cynrychioli adegau penodol yn ystod amser daearegol ac felly gellir eu defnyddio i gydberthyn creigiau mewn un man i greigiau mewn mannau eraill. Gweler hefyd braciopodau.

Hen Dywodfaen Coch / Old Red Sandstone

Yr enw traddodiadol ar ddilyniant o dywodfeini a cherrig llaid sy’n perthyn i’r Cyfnod Defonaidd a rhan uchaf y Cyfnod Silwraidd. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Hirnantaidd / Hirnantian

Uned stratigraffig ddiweddaraf y Cyfnod Ordofigaidd. Gweler siart amser Ordofigaidd.

Holosen / Holocene

Yr epoc presennol a ddechreuodd tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl. Gweler siart amser y Cwaternaidd.