Castell Carreg Cennen a bryngaer Garn Goch o’r Oes Haearn
Ewch i weld Castell Carreg Cennen ger Llandeilo yn ei holl ogoniant. Mae’n crogi ar glogwyn calchfaen serth 1000m o uchder yn edrych i gyfeiriad yr Afon Cennen, ac mae’r cadarnle ganoloesol hon gyda’i hanes maith a brith bellach dan ofal Cadw. Cofiwch ymweld â’r ystafell de a’r siop grefftau ar y fferm cyn cerdded rhyw ychydig at adfeilion y castell.
Heb fod ymhell i lawr y ffordd (neu ar hyd Ffordd y Bannau) dewch at Y Gaer Fawr, y fryngaer fwyaf yn Ne Cymru, ac un o ddwy yn Garn Goch sy’n edrych dros Bentref Bethlehem. Bu unwaith yn gadarnle i lwyth y Silwriaid, a’i dewisodd o bosib am ei olygfa dros DdyffrynTywi. Bellach, mae’n werth ichi dreulio awr neu ddwy yn ei archwilio. Yn Amgueddfa Llanymddyfri a Phorth Ymwelwyr gallwch gael gafael ar daflen Geolwybr Garn Goch (£1). Mae man bwydo’r Barcud Coch, a hefyd Barc Dinewfr, Newton House a Chastell sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol, o fewn tafliad carreg.
Os oes gennych awr neu lai:
- Paned a chacen yn ystafell de’r Castell.
- Ymweld â Garn Goch – dilynwch y Geolwybr cyfan os oes gennych ddigon o amser neu dadlwythwch y Geodaith.
- Neuadd bentref Trap a’r caffi
Os oes gennych hanner diwrnod (2-4awr):
- Ymweld â Chastell Carreg Cennen a’r goedwig.
- Archwilio Llandeilo, tref hanesyddol.
- Treuliwch amser yn y Parc Dinefwr hanesyddol ger Llandeilo gan gynnwys Tŷ Newton (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a Chastell Dinefwr (Cadw).
Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8awr):
- Cerddwch y darn olaf (neu cyntaf!) o Ffordd y Bannau rhwng Llangadog Bethlehem a Carreg Cennen drwy Bethlehem.
- Cerddwch y darn ail o Ffordd y Bannau rhwng Carreg Cennen a Chwareli Mynydd Du neu hyd yn oed Llanddeusant.