Llwybr y Sgydau

Mae Bro’r Sgydau wedi bod yn arbennig o brysur yn ddiweddar. Beth am archwilio rhan arall o’r Geoparc neu’r Parc Cenedlaethol ehangach ar hyn o bryd?


Gellir creu teithiau cerdded mewn cylch sy’n ymweld â chyfuniadau amrywiol o’r rhaeadrau ar hyd glannau afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin a Nedd Fechan.

Cyfeirnod AO SN 935123 (maes parcio Gwaun Hepste) neu SN 900076 (maes parcio Cwm Porth)

Taith gerdded mewn cylch sy’n cynnwys rhaeadrau Sgwd Clun-Gwyn, Sgwd Isaf Clun-Gwyn a Sgwd y Pannwr ar hyd Afon Mellte.  Mae’r llwybr y tu ôl i Sgwd yr Eira yn fythgofiadwy!

Daeareg

  • Carbonifferaidd: Y Garreg Ddiffaith, Tywodfaen Deuddeg Troedfedd, Tywodfaen Cumbriense, Carreg Laid Llandeilo Ferwallt

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • ‘Waterside Places’ a gyhoeddir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac a werthir am £1 yn y Ganolfan Gwybodaeth
  • Geolwybrau

Cyfleusterau

  • Toiledau a chanolfan wybodaeth yng Nghwm Porth
  • Maes parcio talu ac arddangos yng Nghwm Porth a Gwaun Hepste
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Rhannau creigiog, cwympiadau serth heb ffens; mwdlyd mewn mannau;
  • Cymerwch ofal ger yr afon ddofn, oer a chyflym, yn enwedig ar wyneb creigiau sy’n gallu bod yn llithrig.

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar hyd isffyrdd cul o’r A4059 neu o Ystradfellte
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru

Atyniadau eraill gerllaw