Cydbwyso anghenion hamdden a chadwraeth
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gweithio gyda sefydliadau eraill â diddordeb er mwyn llunio cod ymddygiad i grwpiau ac unigolion sy’n cymryd rhan mewn cerdded ceunentydd. Mae ceunentydd y Geoparc ac, yn wir, y Parc Cenedlaethol ehangach, yn bwysig yn rhyngwladol o ran eu cynefinoedd arbenigol ar gyfer nifer o rywogaethau ac mae’n hanfodol na chaiff y rhain eu difrodi’n anfwriadol.
Mae panel yn y maes parcio yng Nghraig-y-ddinas ger Pontneddfechan. Dysgwch fwy am Fwa Maen a Geunant Sychryd sy’n rhedeg heibio’r man hwn.