Hen reilffordd, sawl tramffordd, a gwaith briciau tân ar un adeg gyda nifer o chwareli wedi eu gosod mewn tirwedd wyllt o frigiadau calchfaen a chlegyr grutfaen.
Mae cymuned a oedd unwaith yn ffynnu bellach yn ddim ond ychydig o dai a llawer o adfeilion. Mae gan doriadau ac argloddiau di-rif, crybiau a phantiau stori bob un i’w dweud am hanes y fangre hon.
Am fwy o wybodaeth dilynwch y dolenni hyn at wefannau allanol:
- Hanes Penwyllt (tudalen dolenni ar wefan SWCC)
- Tramffordd Fforest Brycheiniog (dolen i safle Hanes Powys)
- Odynnau Calch ym Mhenwyllt