Rheilffordd Fynydd Aberhonddu

Mae’r rheilffordd treftadaeth hon yn rhedeg ar hyd lein yr hen Rheilffordd Cyffordd Aberhonddu a Merthyr ger cronfeydd dŵr Pontsticill a Phentwyn.

Cyfeirnod AO SO 059097 (Gorsaf Pant gyda maes parcio) hyd SO 049167 (Gorsaf Torpantau)

Golygfeydd o’r trên dros y cronfeydd dŵr a’r chwareli calchfaen segur.

Daeareg

  • Carbonifferaidd: Siâl Calchfaen Isaf, Gronellfaen Abercriban, Calchfaen Cil-yr-ychen
  • Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd): Cerrig Cochion, Gwelyau Llwyfandir a Ffurfiannau Grutiau Llwyd

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Cyhoeddiadau amrywiol ar gael

Cyfleusterau

  • Maes parcio yn SO 059097
  • Mynediad: tâl i’w dalu

Hygyrchedd

  • Mae’r trenau’n hygyrch

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar isffyrdd o Ferthyr Tudful
  • Ar y trên — mae’r orsaf drenau agosaf ym Merthyr Tudful 3 milltir / 5km i’r de — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru
  • Ar feic — mae’r NCN 8 yn rhedeg gerllaw

Atyniadau eraill gerllaw