Marchogaeth


 

Mae nifer o gyfleoedd i eistedd yn y cyfrwy ac archwilio’r Geoparc ar gefn ceffyl.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi ennill gwobr mynediad Cymdeithas Marchogaeth Prydain (BHS) fel y Parc Cenedlaethol mwyaf gweithgar o ran agor llwybrau ceffylau. Dyma gyrchfan marchogaeth perffaith gyda golygfeydd ardderchog, cyfoeth o fywyd gwyllt a rhai o’r llwybrau marchogaeth gorau yn Ewrop.

Mae’n agos i gysylltiadau ffordd a rheilffordd gwych, ond eto i gyd yn fyd i ffwrdd o ffwdan bywyd tref. Mae gennym filoedd o erwau o fryniau, rhosydd a chaeau, wedi eu croesi gan lwybrau a lonydd hynafol.

Ewch i dudalen we marchogaeth y Parc Cenedlaethol