Cynigion ehangu Geoparc

Yn dilyn argymhelliad a wnaed gan UNESCO yn 2022, mae Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr (GBU) yn ystyried estyniad ffurfiol i’w ffin ddeheuol lle mae’n ymylu ar Faes Glo De Cymru.

Rydym wedi cael ein gwahodd i ‘ystyried ehangu tiriogaeth GBU i gynnwys safleoedd newydd yn ymwneud â’r dreftadaeth glofaol drawiadol‘.

Mae’re Geoparc wedi gweithio gyda chymunedau ar ei gyrion deheuol ers blynyddoedd lawer; dyma gyfle i gryfhau’r cydweithio hwnnw. Rydym wedi dechrau archwilio pa ardaloedd a allai elwa o gael eu cynnwys yn y Geoparc – mae’r rheolau’n caniátau ar gyfer ehangu ein hardal bresennol o 10% – byddai hynny’n golygu hyd at 76 km sgwâr o diriogaeth newydd.

Mae’n bwysig bod unrhyw newidiadau yn cael cefnogaeth cymunedau lleol; dyna pam y byddwn yn ymgynghori â sefydliadau ac unigolion dros y misoedd nesaf – rydym am glywed eu barn.

Edrychwch ar gwestiynau cyffredyn ynglŷn â’r ehangu.

Gwiriwch yn ôl yma am diweddariadau.

Tudalen wedi ei diweddaru ddiwethaf ar 14 Chwefror 2024.