Geo-lwybrau

Mae cyfres o daflenni wedi cael eu cyhoeddi i’ch helpu i gael mwy allan o Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr. Mae naw o Geo-lwybrau’n eich cyflwyno i dirweddau naturiol a gwneud yr ardal hon.

Mae rhai’n deithiau cerdded hamddenol a rhwydd, mae rhai eraill yn gorfforol galetach. Mae rhai sy’n canolbwyntio ar y creigiau gwaelodol, a rhai eraill sy’n edrych ar sut mae dyn wedi llunio’r tir.

Bu Arolwg Daearegol Prydain, Prifysgol Caerdydd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweithio gyda’i gilydd i gyhoeddi’r teulu hwn o deithiau cerdded, gyda chymorth gan Gronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru. Mae pob un ar gael am £1 o ganolfannau’r Parc Cenedlaethol a drwy’r siop ar-lein.

Edrychwch am y teitlau hyn*:

  • Mynydd Illtud – tir comin ger y Ganolfan Fynydd yn Libanus
  • Garn Goch – dwy fryngaer o’r Oes Haearn ger Bethlehem
  • Brecon: River Usk (Aberhonddu: Afon Wysg) – yr afon a’i gorlifdir
  • Pen-y-crug – bryngaer Oes Haearn uwchlaw Aberhonddu
  • Llandovery (Llanymddyfri) – taith o amgylch adeiladau’r dref
  • Glyn Tarell – etifeddiaeth yr Oes Iâ yn y bryniau i’r gorllewin o’r Bannau canolog
  • Henrhyd Falls and Nant Llech (Sgwd Henrhyd a Nant Llech) – rhaeadr a cheunant coediog yng Nghoelbren
  • Henllys Vale (Bro Henllys) – treftadaeth mwyngloddio a chwarela yng Nghwm Twrch uchaf
  • Brecon (Aberhonddu) – afon Honddu a chreigwely’r dref 

* Mae’r taflenni hyn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd er bod fersiynau Cymraeg y gellir eu lawrlwytho ar y gweill.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ychydig o lwybrau cerdded cylchol eraill. Mae pob un rhwng 2.5 a 4 milltir (4-8km) o hyd ac yn archwilio dylanwad dyn a natur ar dirweddau ymylon deheuol y Geoparc. Mae’r pedair taflen ddwyieithog hyn am ddim ac ar gael o ganolfannau’r Parc Cenedlaethol a rhai lleoedd lleol eraill yn y mannau priodol:

  • Ceunentydd Creigiog tirwedd ym Mrynaman a luniwyd gan y graig
  • Crib ac AfonCribarth ac Afon Tawe ger Aber-craf
  • Llinellau yn y TirlunRhufeiniaid a rheilffyrdd arboes yng Nghoelbren
  • O Gwm i Gwmarchwilio ochr ddeheuol y Mynydd Du