Ehangu Geoparc ym Merthyr Tudful

Y dyhead cychwynnol yw ehangu’r Geoparc tua’r de o fewn bwrdeistref sirol Merthyr Tudful er mwyn cynnwys elfennau o dreftadaeth lofaol yr ardal ynghyd â rhai nodweddion naturiol ysblennydd a deniadol.

Mae’r cynigion (ar 18 Hydref 2024) yn rhagweld y bydd rhannau o’r cymunedau canlynol yn cael eu cynnwys mewn Geoparc estynedig:

  • Cyfarthfa
  • Faenor
  • Gurnos
  • Pant
  • Parc
Ardaloedd o ddiddordeb o fewn bwrddeistref sirol Merthyr Tudful

Mae nodweddion o ddiddordeb i’r Geoparc yn ardal Merthyr Tudful yn cynnwys (ond nid ydynt o reidrwydd yn gyfyngedig i):

  • Castell a Pharc Cyfarthfa
  • Safleoedd hanesyddol yn Morlais ac ati
  • Treftadaeth gwneud haearn e.e. Gwaith Haearn Cyfarthfa, Pont y Cafnau
  • Treftadaeth chwareli e.e. Chwareli Castell Morlais etc
  • Teithiau cerdded a choetiroedd glan afon Taf a Thaf Fechan e.e. yn Cefn-coed etc
  • Llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 8 a 46 (Taith Taf ac ati)
  • Tramffyrdd segur yn ardal Taf Fechan a mannau eraill

Mae rhan o gymuned Faenor i’r dwyrain o Gronfa Ddŵr Pontsticill, a oedd gynt ym Mhowys ond a drosglwyddwyd i Ferthyr Tudful, hefyd wedi’i chynnwys yn y cynnig. Mae eisoes yn gorwedd o fewn y Parc Cenedlaethol.

Mae pob un o’r uchod yn cyfrannu rhywbeth at dreftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal hon. Fodd bynnag, mae sôn am unrhyw safle yn y rhestr hon heb ragfarn i dirfeddianwyr ac eraill sydd â diddordeb o unrhyw fath. Nid yw cynnwys o fewn Geoparc estynedig yn dod ag unrhyw fynediad cyhoeddus (neu reolaethau) ychwanegol i unrhyw safle penodol ac eithrio lle mae pawb sydd â diddordeb yn cytuno ar hynny.