Y dyhead cychwynnol yw ehangu’r Geoparc tua’r de ym Mhowys er mwyn cynnwys elfennau o dreftadaeth lofaol yr ardal ynghyd â rhai nodweddion naturiol diddorol a deniadol.
Mae’r cynigion (ar 18 Hydref 2024) yn rhagweld y bydd rhannau o’r cymunedau canlynol yn cael eu cynnwys mewn Geoparc estynedig:
- Tawe Uchaf
- Ystradgynlais

Mae nodweddion o ddiddordeb i’r Geoparc yn ardal Powys yn cynnwys (ond nid ydynt o reidrwydd yn gyfyngedig i):
- Teithiau cerdded glan dŵr Twrch, treftadaeth coetir a mwyngloddio
- Ardaloedd bywyd gwyllt e.e. gwarchodfa natur Wern Plemys
- Treftadaeth mwyngloddio a gwaith haearn yn ardal Ystradgynlais
- Nodweddion gweddilliol Camlas Abertawe, e.e. yn Cae’r Lan
- Teithiau cerdded glan afon Tawe e.e. yn Abercraf, Cae’r-bont etc
- Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 43 (Glan-rhyd i Coelbren)
- Tramffyrdd segur yn ardal Coelbren a mannau eraill
Mae pob un o’r uchod yn cyfrannu rhywbeth at dreftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal hon. Fodd bynnag, mae sôn am unrhyw safle yn y rhestr hon heb ragfarn i dirfeddianwyr ac eraill sydd â diddordeb o unrhyw fath. Nid yw cynnwys o fewn Geoparc estynedig yn dod ag unrhyw fynediad cyhoeddus (neu reolaethau) ychwanegol i unrhyw safle penodol ac eithrio lle mae pawb sydd â diddordeb yn cytuno ar hynny.