Mae’r llwybr llawn yn 55 milltir / 93km ac yn ymestyn o Gaerdydd i Aberhonddu. O fewn y Geoparc mae un gangen o’r llwybr yn mynd drwy Gwm Taf a Glyn Tarell tra bod y llall yn mynd drwy Gwm Taf Fechan.
Cyfeirnod AO SO 030079 (Cefn Coed y Cymmer) hyd SO 045285 (Llanfaes) a SO 049167 (Torpantau)
Gallwch gerdded neu feicio ar ei hyd, ond byddwch yn mwynhau’r dirwedd ddramatig mae’r llwybr yn troelli drwyddi, a bod yn sicr o raddiant graddol. Mae rhannau’r Geoparc yn rhedeg o Gefn Coed-y-cymer ar ochr ogleddol Merthyr Tudful i’r gogledd i Lanfaes yn Aberhonddu ac i Dorpantau yng Nghoedwig Taf Fechan.
Daeareg
- Cwaternaidd: rhewlifol marianau ac ati
- Carbonifferaidd: Haenau Glo, Tywodfaen Twrch, Calchfaen,
- Defonaidd: Gwelyau llwyfandir, Grutiau Llwyd, Cerrig Cochion, Gwelyau Senni a Ffurfiant Llanfocha
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalenni BGS 1:50,000 : 213 ‘Brecon’ a 231 ‘Merthyr Tydfil’
Canllawiau
- Taflen ar gael
Cyfleusterau
- Taflen ar gael
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Newidiol; adrannau byr mewn amgylchedd mynyddig — cymerwch ofal!
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — cysylltiadau amrywiol
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri i’r gorllewin, Y Fenni i’r dwyrain a Merthyr Tudful i’r de — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru
- Ar feic — mae NCN8 yn dilyn dolen ddwyreiniol Taith Taf


