Lle llai adnabyddus na rhai o’r lleill, ond yr un mor ddiddorol.
Mae iddo awyrgylch mwy cyfrinachol a dirgel na bryniau’r dwyrain. Ardal i’r arbenigwr yn bendant. Cyhoeddwyd dwy daflen teithiau cerdded am ddim (Mawrth 2011) — cadwch lygad barcud am ‘Ceunentydd Creigiau/Rock Ravines’ ac ‘O Gwm i Gwm/From Cwm to Cwm’ sy’n disgrifio’r teithiau cerdded o Frynaman a Garnant ar yr ochr ddeheuol.
- Brynaman a Chanolfan y Mynydd Du — dechreuwch neu gorffennwch eich siwrnai i’r Mynydd Du ym Mrynaman.
- Dyffryn Henllys — yn dal yn anadnabyddus y tu allan i’r ardal hon. Unwaith roedd yn ganolfan diwydiant ond bellach mae’n fan tawel i fwynhau tawelwch a myfyrio.
- Chwarel Herbert — cerddwch ar draws hen lawr y môr tra’n mwynhau golygfeydd panoramig.
- Llyn y Fan Fach — mae angen ymdrechu rhywfaint i gyrraedd hwn, ond mae’n werth yr ymdrech.
- Llyn y Fan Fawr — wedi ei leoli mewn man dramatig o dan Y Mynydd Du.



