Tirlithriad!

Mae dwsinau o dirlithriadau yn graith ar fryniau Geoparc y Fforest Fawr – mae’r dudalen hon yn esbonio pam y digwyddasant a ble y maent.

Mae arwyddion o dirlithriadau blaenorol i’w gweld ar hyd a lled bryniau Hen Dywodfaen Coch y Geoparc. Ac eithrio un, mae pob un o’r tirlithiadau mawr wedi digwydd o fewn y Cerrig Cochion a gwelyau Senni – yr olyniaeth o dywodfeini a cherrig llaid sy’n ffurfio llawer o ran uchaf yr Hen Dywodfaen Coch. Maent oll yn dyddio ar ôl oes yr iâ ddiwethaf pan gwympodd fryniau a oedd wedi dod yn rhy serth neu a faliwyd gan rew neu ddŵr tawdd, i’r cymoedd.

Mae ein dealltwriaeth o dirlithriadau wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag argaeledd delweddau Lidar i’w gweld, yn enwedig y rhai a allai fel arall wedi’u cuddio gan goetir. Mae’r enghraifft hon yng Nghraig Cerrig-gleisiad a grybwyllir isod.

Tirlithriadau o Geoparc

Tirlithriadau o Geoparc

Mae Arolwg Daearegol Prydain yn cynnal Cronfa Ddata Tirlithriadau Cenedlaethol ar ei wefan. Mae ADP yn annog unrhyw un sy’n gweld tirlithriad i’w riportio drwy’r dudalen honno felly os gwelwch chi un newydd yn y Geoparc neu o’i gwmpas, rhowch wybod iddyn nhw –  a rhowch neges atom ni hefyd!

Mae pob un o’r lleoliadau a restrir isod i’w cael ar daflen fap OL12 yr Arolwg Ordnans, sef ‘Brecon Beacons National Park; Western Area/Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Ardal Gorllewinol’. Mae mapiau graddfa 1:50,000 gan Arolwg Daearegol Prydain, sef 213 ‘Brecon’, 230 ‘Ammanford a 231 ‘Merthyr Tydfilyn ymdrin â’r ddaeareg. Mae llawer o’r safleoedd ysblennydd hyn yn gorwedd ar Ffordd y Bannau neu gerllaw iddi –dewch chi ar draws rhai ar deithiau cyhoeddedig eraill.

  • Sylwer bod cyfeirnodau grid a chodiadau sy’n uwch na lefel y môr yr Arolwg Ordnans (‘top a bysedd traed’) ar gyfer y detholiad hwn o safleodd yn rhai bras yn unig.  

Blaen Taf Fawr

Mae rhan drionglog o’r llethr sy’n wynebu’r dwyrain uwchben rhannau uchaf Afon Taf wedi llithro, efallai drwy dandorri’r nant. Y ffordd orau o’i gweld yw drwy Ffordd y Bannau rhwng Pont ar Daf a Phen y Fan. Mae parcio ym Mhont ar Daf i’w gael yn SN 987199 (Ymddiriedolaeth Genedlaethol, talu ac arddangos).

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 570-510m / 1900-1700 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 993206

Craig Cerrig-gleisiad

Tirlithriad mawr – neu gyfres o dirlithriadau– y mae gan ei darddiadau gysylltiad agos â rhewlifiant y cwm hwn. Mae modd ei weld yn rhannol o’r A470 ond mae modd gweld y golygfeydd gorau drwy gerdded i’r cwm o’r gilfan yn SN 971222, neu gallwch ei weld oddi uchod o Ffordd y Bannau. Dynodwyd y safle cyfan fel gwarchodfa natur genedlaethol.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant Senni
  • Esgyniad: 600-350m / 1950-1150 troedfedd
  • Cyf Grid SN 960220 – 975240

Craig y fro

Gan fod yr A470 yn rhedeg yn syth drwyddo a chan fod ardal barcio fawr ar ei ymyl ogleddol, mae hwn yn safle hygyrch iawn. Fodd bynnag, mae barn y mwyafrif o wyddonwyr ar darddia y ffurfiau tir trawiadol a welir yn y fan hon wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf o darddiad tirlithriad i un rhewlifol. Cewch gipolwg drwy lygad aderyn o Ffordd y Bannau sy’n rhedeg uwchben.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant Senni
  • Esgyniad: 520-350m / 1700-1150 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 973207

Cwar y Gigfran

Er bod y llithriad trawiadol hwn yn gorwedd ychydig y tu allan i’r Geoparc, mae’n cael ei gynnwys yma am ei fod o ddiddordeb arbennig. Gallwch ei weld orau o Ffordd y Bannau ar hyd Craig y Fan Ddu. Wedi’i ffurfio o fewn Ffurfiant y Cerrig Cochion, mae’n ymestyn o ymyl tywodfaen uchel Cwar y Gigfran i lawr i nant Blaen-y-Glyn.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 740-500m / 2400-1650 troedfedd
  • Cyf Grid: SO 060198

Cwm Nant Lloi

Llithriad ychydig i’r de o Fwlch Bryn-rhudd. Mae cyn reilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu yn mynd drwy ganol y llithriad yn yr un modd â Thramffordd Coedwig Aberhonddu gynt. Gellir ei weld o ffordd yr A4067 i Abertawe neu’r llwybr goddefol sy’n dilyn yr hen reilffordd o’r bwlch. Gallwch barcio yn y gilfan yn SN 867193

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 470-320m / 1550-1050 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 868188

Dyffryn Mellte

Mae ochr ddwyreiniol serth y ceunant lle y llifa afon Mellte uwchben ei chymer ag afon Hepste wedi cwympo, gan adael cymysgedd o glogfeini y mae coed wedi ymledu drosto. Cwympodd tywodfeini bregog a cherrig llaid gwan Grŵp Marros ar ryw adeg anhysbys ond ymhell yn ôl wrth iddynt gael eu tandorri gan yr afon. Gallwch ei weld orau o’r llwybr i lawr at Sgwd y Pannwr sy’n rhedeg trwy’i ganol – mynnwch y canllaw i Lwybr y Pedair Rhaeadr sy’n mynd heibio iddo a thrwyddo.

  • Craig: cerrig llaid a thywodfeini Grŵp Marros
  • Esgyniad: 250-170m / 800-550 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 923104

Fan Dringarth

Yn un o’r tirlithriadau mwyaf ysblennydd yn y Geoparc cyfan ac yn un o’r rhai lleiaf hygyrch ac felly yn un o’r rhai lleiaf adnabyddus. Mae ochr ddwyreiniol copa Fan Dringarth wedi torri i ffwrdd ac mae ychydig ohono bellach yn ffurfio toreth mawr o weddillion creigiog uwchben Afon Dringarth ar ben Cronfa Ystradfellte. Mae modd ei weld o Ffordd y Bannau gan ei fod yn rhedeg ar hyd cribyn y mynydd. I’w weld o Ffordd y Bannau wrth iddi redeg ar hyd esgair y mynydd.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 610-400m / 2000-1300 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 942195 i SN 199188

Graig Fawr

Hwn yw’r unig dirlithriad ymhlith tirlithriadau’r Parc Cenedlaethol a’r Geoparc. Mae’r un yma i’w gael o fewn cerrig llaid a thywodfeini’r Haenau Glo uchaf, er bod tirlithriadau yn y creigiau hyn yn gyffredin iawn yn y maes glo i’r de. Mae dau lwybr troed cyhoeddus yn rhedeg drwy’r llithriad ar ochr orllewinol Cwm Pedol, i’r gorllewin o Frynaman er bod modd ei weld yn hawdd o ochr ddwyreiniol y cwm. Mae’r daith gerdded ‘O Gwm i Gwm’ yn mynd drwyddo – taflen am ddim ar gael yn lleol.

  • Craig: cerrig llaid a thywodfeini Haenau Glo
  • Esgyniad: 280-190m / 900-620 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 695153

Y Graig Llech

Effeithiwyd ar y llwybr i lawr ceunant Nant Llech gan dirlithriad ychydig flynyddoedd yn ôl ond erbyn hyn mae’n sefydlog. Yn fwy diweddar (yn gynnar 2016), cymherwyd llwybr allan gan slip ar waelod y ceunant – mae’r llwybr wedi’i ail-agor ond mae’r graith yn parhau i fod. Ceir tystiolaeth o lithriadau cynharach mewn mannau. Yn aml bydd llethrau serth sydd wedi’u torri i mewn i greigiau cymharol wan fel y cerrig llaid hyn yn yr Haenau Glo yn ansefydlog ac yn dueddol o lithro. Cerddwch i lawr o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Sgwd Henryd.

  • Craig: cerrig llaid a thywodfeini Haenau Glo, til rhewlifol
  • Esgyniad: (i) 250-190m / 800-650tr
  • Cyf Grid: (i) SN 843122 & (ii) SN 837123