
Rhaglen 20fed Pen-blwydd Gŵyl Geoparc UNESCO y Fforest Fawr
Ymunwch â ni i ddathlu ugain mlynedd ers sefydlu Geoparc UNESCO ym Mannau Brycheiniog. Dydd Sadwrn y 27ain o Fedi 2025 bydd stondinau daeareg ac archeoleg yn y Ganolfan Ymwelwyr, bydd darlithoedd gan arbenigwyr a thaith gerdded er mwyn agor yr ŵyl yn swyddogol. Yn dilyn hynny, cynhelir gweithgareddau’n mewn gwahanol lefydd ar wahanol ddiwrnodau, yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Drwy brynu tocyn i’n gŵyl, nid yn unig ydych yn ymuno â’r dathliadau – rydych chi’n helpu i ofalu am y dirwedd arbennig hon a rhannau ei straeon. Mae eich cefnogaeth yn helpu prosiectau pwysig yn uniongyrchol, megis datblygiad llwybr newydd y Geoparc er mwyn i bawb gael mwynhau. Diolch am fod yn rhan ohono.
Ymhlith y rhai sy’n darparu arddangosfeydd a/neu weithgareddau ymarferol yn y dydd Sadwrn cyntaf mae:
- Grŵp RIGS De-ddwyrain Cymru a Chymdeithas Daearegwyr De Cymru
- Heneb – ymddiriedolaeth archaeoleg Cymru
- Cymdeithas Russell -mwynau yn eich ffôn clyfar
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyfeillion Bannau Brycheiniog / prosiect Tramffyrdd Bannau Brycheiniog (Roy Manning a Charina Jones)
Disgwylir i’r rhai fydd yn bresennol ym Mharc Gwledig Craig-y-nos dros ail benwythnos yr ŵyl ar 11/12 Hydref:
- Grŵp RIGS De-ddwyrain Cymru a Chymdeithas Daearegwyr De Cymru (dydd Sul yn unig)
- Heneb – ymddiriedolaeth archaeoleg Cymru (dydd Sadwrn yn unig)
- Cymdeithas Russell – mwynau yn eich ffôn clyfar (dydd Sul yn unig)
- Cymdeithas Daearwyddoniaeth Prifysgol Abertawe
- Cyfeillion Bannau Brycheiniog / prosiect Tramffyrdd Bannau Brycheiniog (Roy Manning a Charina Jones)
Dydd Iau, 25 Medi 2025
Taith Gerdded Gymdeithasol o YHA Bannau Brycheiniog – GWERTHU ALLAN
Fel rhan o Ŵyl Gerdded YHA, helpwch ni i ddathlu 20 mlynedd fel Geoparc UNESCO wrth i ni archwilio dau gwm dramatig wedi’u lleoli yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad.
Dydd Sadwrn, 27 Medi 2025 (12.15pm)
Hanes Fer o Geoparc Fforest Fawr (Rhan 1: Seiliau Creigiog)
Sgwrs Arbenigol yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Un o swyddogion y Geoparc, Alan Bowring, fydd yn ein tywys ar daith drwy 470 miliwn o flynyddoedd, gan ddilyn trywydd ‘cyfnod dwfn’ y creigiau sy’n creu haenau ein tirlun.
Dydd Sadwrn, 27 Medi 2025 (1.30pm)
Haearn ac Iâ – Oesoedd y Gorffennol
Cerdded Tywysedig o Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ymunwch â’r daearegwr lleol Alan Bowring ar gyfer cylchdaith gogleddol ar hyd Mynydd Illtud o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i Fryngaer Twyn y Gaer. Dewch i glywed am waddol y cyfnod rhewlifol diwethaf a’r bobl hynny a fu’n byw ar y tir hwn dros y 2,500 o flynyddoedd diwethaf, yn ogystal â golygfeydd ysgubol o’r mynyddoedd o’n hamgylch.
Dydd Sul, 28 Medi 2025 (12.30pm)
Hanes Fer o Geoparc Fforest Fawr (Rhan Dau: yr iâ ar Frig y Mynydd)
Sgwrs Arbenigol yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Bydd un o Swyddogion y Geoparc, Alan Bowring, yn ymchwilio’r ffordd y mae haenau ein tirlun wedi ymdopi dros y canoed o flynyddoedd diwethaf, wrth i rewlifoedd a thirlithriaid ychwanegu’r cyffyrddiadau olaf at y lle hwn
1.30PM, Dydd Sul, 28 Medi 2025 (1.30pm)
Corsydd, y Rhufeiniaid a Rhagor Eto
Cerdded Tywysedig o Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ymunwch ag Alan Bowring, daearegwr lleol profiadol, am gylchdaith deheuol o amgylch Mynydd Illtud o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i Draeth Mawr, byddwn yn ymweld â meini hirion, ffos ryfeddol, Sarn Helen a bedd sant.
Dydd, Gwener, 3 Hydref 2025
Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog – Upper Hepste
Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog – Taith Gerdded Hespte Uchaf
Taith Gerdded hamddenol ar y rhostir yn edrych ar dreftadaeth ddaearegol ac archeolegol cornel llai ymweledig o’r Geoparc.
Dydd Sadwrn, 4 Hydref 2025
Diwrnod Treftadaeth a Archaeoleg Heneb – Bannau Brycheiniog Parc Cenedlaethol
Dewch i’r digwyddiad hwn yn Neuadd Henderson yn Nhal-y-Bont ar Wysg i archwilio treftadaeth archeologeol ddiddorol canolbarth a de-ddwyrain Cymru heb arbenigwyr. Wedi’i gynnal gan Heneb – ymddiriedolaeth archeoloeg Cymru – a Chymdeithas Parc Bannau Brycheiniog.
Dydd Llun, 6 Hydref 2025
Diwrnd Geoamrywiaeth Rhyngwladol
Sefydlwyd y diwrnod hwn gan UNESCO i ddathlu’r cyfoeth o greigiau a phrosesau daearegol sydd wedi llunio, ac yn wir yn parhau i lunio’r dirwedd.
10.30AM, Dydd Sadwrn, 11 Hydref 2025 (10.30am)
Prosiect Tramffyrdd Bannau Brycheiniog
Sgwrs Arbenigol yn Ystafell Hibbert, Parc Gwledig Craig-y-nos
Ymunwch â Roy Manning, o Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, bydd yn rhannu ei wybodaethau a’i angerdd am y systemau trafnidiaeth hyn, a’r modd y mae gwaith gyda phartneriaethau diweddar yn ein galluogi ni i archwilio a chofnodi’r cyfnod hwn o’n hanes.
Dydd Sadwrn, 11 Hydref 2025 (11.15am)
Cribarth a Chraig-y-nos yn ystod y Cyfnod Dwfn
Sgwrs Arbenigol yn Ystafell Hibbert, Parc Gwledig Craig-y-nos
Dewch i ddysgu am ddatblygiadau’n tirlun gydag un o Swyddogion y Geoparc, Alan Bowring.
Drwy deithio’n ôl mewn amser, byddwn yn ymchwilio effaith hirhoedlog yr ymwelwad diwydiannol o gyfoeth mwnol Cribarth. Nes ymlaen bydd Jeff Alexander yn ymuno ag Alan Bowring ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Jeff yw awdur llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar o’r enw “Cribarth: The Giant Awakes”. Ystyriwch y wâc yn y prynhawn yn ddilyniant i’r digwyddiad hwn.
Dydd Sadwrn, 11 Hydref 2025 (1pm – 4.30pm)
Cylchoedd Cribarth
Cerdded Tywysedig o Barc Gwledig Craig-y-nos
Bydd Jeff Alexander, arbenigwr gwadd, yn ymuno â’r daearegydd profiadol lleol, Alan Bowring, er mwyn crwydro’r bryn anhygoel hwn sy’n codi uwchben Craig-y nos; dyma gribyn mwyaf creigiog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ffawt a phlyg, iâ a diwydiant, mae’r cyfan oll wedi chwarae rhan yn ffurfiant y bryn hwn.
Byddwch yn dyst i filltiroedd o hen dramffyrdd wrth iddynt weu drwy’r tirlun unigryw hwn sy’n llawn cwympdyllau a hen chwarelu –peidiwch â cholli’r daith gerdded hon!
Dydd Sul, 12 Hydref 2025 (11.30am)
Carstiau, Ogofâu, Clegyr ac Odynnau
Sgwrs Arbenigol yn Ystafell Hibbert, Parc Gwledig Craig-y-nos
Dinoethwch galchfaen tirlun Geoparc Fforest Fawr yn y Ddarlith Arbenigol hon gydag un o Swyddogion y Geoparc, Alan Bowring.
Dydd Sul, 12 Hydref 2025 (2pm – 4pm)
Cyfoeth y Dŵr
Taith gerdded o Barc Gwledig Craig-y-nos
Ymunwch â’r daearegydd lleol, profiadol Alan Bowring, am gyflwyniad i ran o Gwm Tawe a ffurfiwyd gan afonydd o ddŵr ac iâ. Mae yno stori y tu ôl i bob un twmpath a phant yn y tirlun – a byddwn yn crwydro ger tipyn ohonynt ar y gylchdaith, ysgafn hon!



