Yn ddiweddar, cymerodd Geoparc y Fforest Fawr ran fel un o dair ardal beilot mewn prosiect dan arweiniad UNESCO a oedd yn edrych ar effeithiau Newid Hinsawdd ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol safleoedd dynodedig UNESCO yn y DU. Y ddwy ardal beilot arall oedd Gwarchodfa Biosffer Gogledd Dyfnaint a Sector Mur Hadrian o Safle Treftadaeth y Byd Ffiniau’r Ymerodraeth Rufeinig.
NDC13
Mae’r Geoparc yn cefnogi Nod Datblygu Cynaliadwy 13 UNESCO sy’n ceisio ‘cymryd camau brys i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a’i effeithiau‘.
Mwy o wybodaeth gan UNESCO.



