| Afon Aman | mae ‘Aman’ naill ai’n enw personol neu mae’n dod o ‘amanw’ sy’n golygu mochyn/mochyn bach. Mae’r afon yn rhoi ei henw i Rydaman/Ammanford, Glanaman a Brynaman | 
| Afon Bran | aderyn yw ‘brân’. Mae’n bosibl bod hyn yn gyfeiriad at liw’r dŵr – mawnaidd neu efallai o dan gysgod? | 
| Afon Cennen | mae ‘cennen’ yn ‘cennin’ neu o bosibl enw personol ‘Cennen’ | 
| Afon Clydach | mae ‘clydach’ yn golygu cysgodol, cryf, cyflym neu garegog. | 
| Afon Crai | gall ‘crai’ olygu garw neu llym. Mae’r afon yn rhoi ei henw i’r pentref hefyd. | 
| Afon Cynrig | nid yw’r ystyr yn hysbys | 
| Afon Gwydderig | nid yw’r ystyr yn hysbys | 
| Afon Hepste | ‘afon sych’ efallai? | 
| Afon Hydfer | ‘nant feiddgar’ | 
| Afon Llia | nid yw’r ystyr yn hysbys | 
| Afon Mellte | afon mellt – efallai oherwydd ei bod yn codi ac yn gostwng yn gyflym neu efallai oherwydd ei chwrs danheddog. Mae’n rhoi ei henw i bentref Ystradfellte. | 
| Afon Nedd Fechan | Nid yw ystyr ‘nedd’ yn hysbys ond mae’n debyg i’r Afon Nidd yng ngogledd Swydd Efrog | 
| Afon Pyrddin | ‘pyrddin’ yw’r ‘dyn pur’ – cyfeiriad at Dewi Sant | 
| Afon Sawdde | nid yw’r ystyr yn hysbys | 
| Afon Senni | Mae ‘Senni’ naill ai’n enw personol neu’n golygu ‘sarhaus’ – sydd efallai’n cyfeirio at sŵn ei llif? | 
| Afon Tarell | nid yw’r ystyr yn hysbys | 
| Afon Taf Afon Tawe | Mae ‘taf’ yn hen enw gyda tharddiadau tebyg i’r enw ‘tawe’ Mae ‘tawe’ yn hen enw sydd o bosibl yn golygu llonydd a llifo’n ddwfn. | 
| Afon Twrch | o effaith ‘trwyno’ ei dyfroedd neu o bosibl ‘tyrchu’ trwy’r ddaear? | 
| Afon Tywi / | Fwy na thebyg mae ‘tywi’ yn golygu llonydd a llifo’n ddwfn | 
| Afon Wysg | o’r gair Prydeinig ‘isca’ sy’n golygu dŵr (mae’r afonydd Axe, Exe ac Esk â’r un tarddiad) neu mae’n golygu ‘yn gyforiog o bysgod’. | 
| Sychryd | ‘sych’ | 
| Taf Fawr | gweler Afon Taf | 
| Taf Fechan | gweler Afon Taf | 



