
Ymunwch â ni i ddathlu ugain mlynedd ers sefydlu Geoparc UNESCO ym Mannau Brycheiniog. Dydd Sadwrn y 27ain o Fedi 2025 bydd stondinau daeareg ac archeoleg yn y Ganolfan Ymwelwyr, bydd darlithoedd gan arbenigwyr a thaith gerdded er mwyn agor yr ŵyl yn swyddogol. Yn dilyn hynny, cynhelir gweithgareddau’n mewn gwahanol lefydd ar wahanol ddiwrnodau, yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Drwy brynu tocyn i’n gŵyl, nid yn unig ydych yn ymuno â’r dathliadau – rydych yn cynorthwyo i ofalu ac i rannu straeon tirlun sy’n perthyn i ni gyd. Mae eich cefnogaeth yn helpu prosiectau pwysig yn uniongyrchol, megis datblygiad llwybr newydd y Geoparc er mwyn i bawb gael mwynhau. Diolch am fod yn rhan ohono.
Gwaith Maes Afonydd Digwyddiad Preifat TGAU Daeareg
23 Medi 2025
Taith Gerdded Gymdeithasol o YHA Bannau Brycheiniog – GWERTHU ALLAN
Dydd Iau, 25 Medi 2025
Fel rhan o Ŵyl Gerdded YHA, helpwch ni i ddathlu 20 mlynedd fel Geoparc UNESCO wrth i ni archwilio dau gwm dramatig wedi’u lleoli yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad.
Datblygiad Planhigion sy’n Blodeuo
Sgwrs Arbenigol gyda Maria Golightly
10.15AM, 27 Medi 2025
Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Maria Golightly fydd yn ein tywys ar hyd taith planhigion sy’n blodeuo o’r cyfnod Jwrasig hyd heddiw, ac yn egluro wrthym na fyddai dynol ryw wedi gallu bodoli hebddynt.
Prosiect Tramffyrdd Bannau Brycheiniog
Sgwrs Arbenigol gyda Roy Manning
11.20AM, 27 Medi 2025
Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ymunwch â ni am Ddarlith Arbenigol gyda Roy Manning, o Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, bydd yn rhannu ei wybodaethau a’i angerdd am y systemau trafnidiaeth hyn, a’r modd y mae gwaith gyda phartneriaethau diweddar yn ein galluogi ni i archwilio a chofnodi’r cyfnod hwn o’n hanes.
Hanes Fer o Geoparc Fforest Fawr (Rhan 1: Seiliau Creigiog)
Sgwrs Arbenigol gyda Alan Bowring
12.15PM, 27 Medi 2025
Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Un o swyddogion y Geoparc, Alan Bowring, fydd yn ein tywys ar daith drwy 470 miliwn o flynyddoedd, gan ddilyn trywydd ‘cyfnod dwfn’ y creigiau sy’n creu haenau ein tirlun.
Haearn ac Iâ – Oesoedd y Gorffennol
Cerdded Tywysedig gyda Alan Bowring
1.30PM, 27 Medi 2025
Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ymunwch â’r daearegwr lleol Alan Bowring ar gyfer cylchdaith gogleddol ar hyd Mynydd Illtud o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i Fryngaer Twyn y Gaer. Dewch i glywed am waddol y cyfnod rhewlifol diwethaf a’r bobl hynny a fu’n byw ar y tir hwn dros y 2,500 o flynyddoedd diwethaf, yn ogystal â golygfeydd ysgubol o’r mynyddoedd o’n hamgylch.
Hanes Fer o Geoparc Fforest Fawr (Rhan Dau: yr iâ ar Frig y Mynydd)
Sgwrs Arbenigol gyda Alan Bowring
12.30PM, 28 Medi 2025
Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Bydd un o Swyddogion y Geoparc, Alan Bowring, yn ymchwilio’r ffordd y mae haenau ein tirlun wedi ymdopi dros y canoed o flynyddoedd diwethaf, wrth i rewlifoedd a thirlithriaid ychwanegu’r cyffyrddiadau olaf at y lle hwn
Corsydd, y Rhufeiniaid a Rhagor Eto
Cerdded Tywysedig gyda Alan Bowring
1.30PM, 28 Medi 2025
Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Ymunwch ag Alan Bowring, daearegwr lleol profiadol, am gylchdaith deheuol o amgylch Mynydd Illtud o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i Draeth Mawr, byddwn yn ymweld â meini hirion, ffos ryfeddol, Sarn Helen a bedd sant.
Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog – Upper Hepste
3 Hydref 2025
Diwrnod Treftadaeth a Archaeoleg Heneb – Bannau Brycheiniog Parc Cenedlaethol
4 Hydref 2025
Tal-y-Bont ar Wysg
Dewch atom ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ddiwrnod o dreftadaeth ac archaeoleg o canol a dde-ddwyrain Cymru.
Prosiect Tramffyrdd Bannau Brycheiniog
Sgwrs Arbenigol gyda Roy Manning
10.30AM, 11 Hydref 2025
Parc Gwledig Craig-y-nos
Ymunwch â ni am Ddarlith Arbenigol gyda Roy Manning, o Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, bydd yn rhannu ei wybodaethau a’i angerdd am y systemau trafnidiaeth hyn, a’r modd y mae gwaith gyda phartneriaethau diweddar yn ein galluogi ni i archwilio a chofnodi’r cyfnod hwn o’n hanes.
Cribarth a Chraig-y-nos yn ystod y Cyfnod Dwfn
Sgwrs Arbenigol gyda Alan Bowring a Jeff Alexander
11.15AM, 11 Hydref 2025
Parc Gwledig Craig-y-nos
Dewch i ddysgu am ddatblygiadau’n tirlun gydag un o Swyddogion y Geoparc, Alan Bowring.
Drwy deithio’n ôl mewn amser, byddwn yn ymchwilio effaith hirhoedlog yr ymwelwad diwydiannol o gyfoeth mwnol Cribarth. Nes ymlaen bydd Jeff Alexander yn ymuno ag Alan Bowring ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Jeff yw awdur llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar o’r enw “Cribarth: The Giant Awakes”. Ystyriwch y wâc yn y prynhawn yn ddilyniant i’r digwyddiad hwn.
Cylchoedd Cribarth
Cerdded Tywysedig gyda Alan Bowring
1PM, 11 Hydref 2025
Parc Gwledig Craig-y-nos
Bydd Jeff Alexander, arbenigwr gwadd, yn ymuno â’r daearegydd profiadol lleol, Alan Bowring, er mwyn crwydro’r bryn anhygoel hwn sy’n codi uwchben Craig-y-nos; dyma gribyn mwyaf creigiog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ffawt a phlyg, iâ a diwydiant, mae’r cyfan oll wedi chwarae rhan yn ffurfiant y bryn hwn.
Byddwch yn dyst i filltiroedd ohen dramffyrdd wrth iddynt weu drwy’r tirlun unigryw hwn sy’n llawn cwympdyllau a hen chwarelu – peidiwch â cholli’r daith gerdded hon!
Carstiau, Ogofâu, Clegyr ac Odynnau
Sgwrs Arbenigol gyda Alan Bowring
11.30AM, 12 Hydref 2025
Parc Gwledig Craig-y-nos
Dinoethwch galchfaen tirlun Geoparc Fforest Fawr yn y Ddarlith Arbenigol hon gydag un o Swyddogion y Geoparc, Alan Bowring.
Cyfoeth y Dŵr
Taith gerdded
2PM, 12 Hydref 2025
Parc Gwledig Craig-y-nos
Ymunwch â’r daearegydd lleol, profiadol Alan Bworing, am gyflwyniad i ran o Gwm Tawe a ffurfiwyd gan afonydd o ddŵr ac iâ. Mae yno stori y tu ôl i bob un twmpath a phant yn y tirlun – a byddwn yn crwydro ger tipyn ohonynt ar y gylchdaith, ysgafn hon!