Canolfannau Gwybodaeth

Mae Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr wedi’i leoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog National Park. I gael rhagor o wybodaeth ewch i un o’r canolfannau Parc Cenedlaethol hyn:

CANOLFAN YMWELWYR PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG

Gyda golygfeydd ysblennydd, siop, caffi a man chwarae, mae’r tîm o Swyddogion Gwybodaeth cyfeillgar a gwybodus wrth law drwy gydol y flwyddyn i’ch helpu i wneud y gorau o’ch ymweliad â’r Geoparc a’r Parc Cenedlatehol. Ar agor drwy gydol y flwyddyn ac eithrio Dydd Nadolig.

Ffôn: 01873 624437

E-bost: visitor.centre@bannau.wales

PARC GWLEDIG CRAIG-Y-NOS
Wedi’i leoli mewn lleoliad dramatig a rhamantus ym mhen uchaf Cwm Tawe, mae Parc Gwledig Craig-y-nos yn ardd Fictoriaidd 4o erw gyda choetiroedd cysgodol, dolydd, pyllau, lawntiau diog ac afonydd rhuthro. Ar agor bob dydd o’r flwyddyn ac eithrio Dydd Nadolig.

Ffôn: 01874 624437

CROESO ABERHONDDU
Gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr yng nghanol Aberhonddu. Edrychwch ar y wefan. Ar agor o ddydd llun i ddydd Sadwrn 10am – 4pm.

Ffôn: 01874 620860

CWM PORTH
Maes parcio â staff a siop sylfaenol uwchben ogof Porth yr Ogof, Ystradfellte. Ar agor bob dydd trwy gydol a flwyddyn.

CANOLFAN YMWELWYR GARWNANT
Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant ar ymyl deheuol y Parc Cenedlaethol wedi’i lleoli o fewn 400 erw o goetir ar ymyl ogleddol cronfa ddwr Llwyn-on. Y ganolfan yw’r man cychwyn ar gyfer llwybrau cerdded, llwybrau natur, llwybrau beicio mynydd, a llwybr cwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a bygis. Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Ffôn: 01685 722481

CANOLFAN Y MYNYDD DU

Wedi’i leoli ym Mrynaman, mae’r ganolfan wrth droed y Mynydd Du. Gwiriwch eu gwefan am oriau agor.

Ffôn: 01269 823400

AMGUEDDFA LLANYMDDYFRI A PHORTH YMWELWYR

Mae gan y ganolfan groesawgar hon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ble i aros a beth i’w wneud yn y Geoparc. Edrychwch ar y wefan. Agoriad tymhorol, dydd Mawrth – dydd Sadwrn, 11am – 2pm.

Mae siop ar-lein Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwerthu eitemau ar gyfer y Geoparc.