Mae dwy gyfres o daflenni wedi cael eu cyhoeddi i’ch helpu i gael mwy allan o Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr. Mae pob Geo-lwybrau’n eich cyflwyno i un o dirweddau naturiol a gwneud-dyn yr ardal hon.
Mae rhai’n sy’n ganolbwyntio ar y creigiau oddi tano, ac mae eraill yn edrych ar sut mae pobl wedi llunio’r lle.
Rydym wedi cyhoeddi saith llwybr cerdded cylchol. Mae pob un rhwng 2.5 a 5 milltir (4-8km) o hyd ac yn archwilio dylanwad pobl a natur ar dirweddau ymylon deheuol y Geoparc. Mae’r saith taflen ddwyieithog hyn am ddim ac ar gael o ganolfannau’r Parc Cenedlaethol a rhai siopau lleol yn yr ardaloedd dan sylw:
- Ceunentydd Creigiog – tirwedd Brynaman wedi’i llunio gan y graig
- Cribarth – chwareli a chreigiau, plygiadau a holltau
- Crib ac Afon – Cribarth ac Afon Tawe ger Aber-craf
- Cyfoeth o Ddŵr – cylchdaith lefel isel i fyny’r dyffryn o Barc Gwledig Craig-y-nos
- Llinellau yn y Tirlun – Rhufeiniaid a rheilffyrdd arboes yng Nghoelbren
- O Gwm i Gwm – archwilio ymyl deheuol y Mynydd Du
- Penwyllt – codiad a chwymp pentrefan diwydiannol
Gweithiodd Arolwg Daearegol Prydain, Prifysgol Caerdydd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda’i gilydd i gyhoeddi teulu arall o deithiau cerdded, gyda chymorth grant o Gronfa Gynaliadwyedd Ardoll Agregau Cymru. Mae pob un ar gael am 50c o ganolfannau’r Parc Cenedlaethol a thrwy’r siop ar-lein. Chwiliwch am y teitlau hyn.
- Mynydd Illtud – tir comin ger y Ganolfan Fynydd yn Libanus
- Garn Goch – dwy fryngaer o’r Oes Haearn ger Bethlehem
- Brecon: River Usk (Aberhonddu: Afon Wysg) – yr afon a’i gorlifdir
- Pen-y-crug – bryngaer Oes Haearn uwchlaw Aberhonddu
- Llandovery (Llanymddyfri) – taith o amgylch adeiladau’r dref
- Henrhyd Falls and Nant Llech (Sgwd Henrhyd a Nant Llech) – rhaeadr a cheunant coediog yng Nghoelbren
- Henllys Vale (Bro Henllys) – treftadaeth mwyngloddio a chwarela yng Nghwm Twrch uchaf
- Brecon (Aberhonddu) – afon Honddu a chreigwely’r dref
* Dim ond yn Saesneg y mae’r taflenni hyn ar gael ar hyn o bryd er bod fersiynau Cymraeg y gellir eu lawrlwytho ar y gweill. * Gellir prynu copïau papur o rai yng Nghanolfan y Mynydd neu drwy siop ar-lein y Parc Cenedlaethol.



